91热爆

Pier: Cyn-berchennog yn colli achos llys

  • Cyhoeddwyd
Colwyn Bay pierFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu pier Bae Colwyn ar gau er 2008

Mae cyn-berchennog pier Bae Colwyn wedi colli achos llys lle'r oedd yn ceisio adfeddiannu'r pier gan Gyngor Conwy, sy'n bwriadu datblygu'r strwythur.

Roedd Steve Hunt, a gafodd ei wneud yn fethdalwr yn 2008 mewn anghydfod dros fil treth cyngor, wedi honni y dylai perchnogaeth o'r pier 112 mlwydd oed ddychwelyd iddo yntau wedi tair blynedd.

Ond mae barnwr yn Llys y Goron Caerdydd wedi gwrthod yr honiad.

Cyhoeddodd Cyngor Conwy ym mis Mawrth eu bod wedi cymryd drosodd y pier Fictorianaidd - adeilad cofrestredig Gradd II sydd wedi mynd a'i ben iddo.

Ym mis Ebrill gwrthodwyd cais gan y Cyngor am grant o 拢4.9 miliwn i adnewyddu'r pier gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.

Roedd yr awdurdod lleol wedi hawlio perchnogaeth wedi i Lywodraeth Cymru ei brynu gan Ystadau'r Goron.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol