Dim arian loteri ar gyfer pier Bae Colwyn
- Cyhoeddwyd
Mae cais cyngor ar gyfer 拢4.9 miliwn o arian loteri er mwyn adfer pier hanesyddol wedi ei wrthod.
Dywed Cronfa Dreftadaeth y Loteri ei fod wedi ystyried cais Cyngor Conwy ar gyfer Pier Bae Colwyn ond nad oedd digon o arian ar gael yn y gronfa.
Fe wnaeth cyngor Conwy hawlio perchnogaeth o'r pier Fictorianaidd ar 么l i Lywodraeth Cymru ei etifeddu gan Stad y Goron.
Dywed cyngor Conwy y byddant yn parhau i edrych am ffyrdd i atgyweirio ac adfer yr adeilad rhestredig gradd II.
Canolfan dwristiaeth
"Rydym yn siomedig, ond mae modd gwneud cais arall yn y dyfodol," meddai'r cyngor.
"Yr hyn sy'n bwysig yw mai'r cyngor sydd 芒 gofal am y pier, fel bod modd gwella cyflwr a golwg y safle."
Dywedodd llefarydd ar ran Cronfa Dreftadaeth y Loteri y byddant yn trefnu cyfarfod 芒'r Cyngor er mwyn trafod dyfodol y prosiect.
"Roedd cynlluniau llawn dychymyg y cyngor i drawsnewid y Pier Fictorianaidd yn ganolfan gymunedol a chanolfan dwristiaeth wedi creu argraff arnom," meddai Jennifer Stewart, pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru.
Ond ychwanegodd: "Roedd nifer y ceisiadau am arian y mis hwn yn fwy na'r hyn oedd ar gael yn y gronfa.
"Roedd safon y ceisiadau yn uchel dros ben, ac yn anffodus doedd yr arian ddim ar gael i gefnogi pob prosiect."
Daeth y pier, sy'n 112 oed, i ofal Cyngor Conwy ar Fawrth 28.
Roedd y cynigion i adnewyddu'r pier yn cynnwys, t欧 bwyta siopa a theatr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2011