91热爆

Achubiaeth i bier hanesyddol Bae Colwyn?

  • Cyhoeddwyd
Glan m么r Bae ColwynFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gwaith eisoes wedi dechrau i wella'r ardal glan m么r ger pier Bae Colwyn

Mae pier hanesyddol, un o'r hynaf yng Nghymru, wedi cael ei brynu gan y cyngor lleol er mwyn ceisio ei achub.

Mae Pier Fictoria, sy'n 112 oed ym Mae Colwyn, wedi bod ynghau ers i'r cyn berchennog fynd yn fethdalwr ym mis Gorffennaf 2008.

Daeth y pier o dan ofal ymddiriedolwr methdaliad ond doedd neb wedi dangos unrhyw ddiddordeb yn y pier cofrestredig Gradd 2 ac fe gafodd ei drosglwyddo i Stad y Goron.

Ddydd Mercher cyhoeddodd Cyngor Conwy mai nhw yw'r perchnogion newydd wedi i'r pier gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru ar ran yr awdurdod.

Yn 么l y cyngor, mae'n hanfodol bod y pier yn rhan ganolog o gynlluniau i fuddsoddi yn y dref a'r arfordir.

Bydd angen dod o hyd i gyllid i ailddatblygu'r pier, oedd yn ganolbwynt bywyd cymdeithasol y dref ac yn denu cerddorion a pherfformwyr fel Morecambe a Wise ac Elvis Costello.

拢3.5尘

Ond mae un amcangyfrif wedi dweud y byddai cynnal gwaith "sylfaenol" yn costio 拢3.5尘 ac mae rhai wedi galw am ddymchwel y pier.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu pier Bae Colwyn ynghau ers 2008

Dywedodd prif weithredwr y cyngor, Iwan Davies: "Mae'r cyngor yn cydnabod bod y pier yn rhan hanfodol o'r arfordir ac yn bwynt cyswllt rhwng canol y dref a'r promen芒d.

"Mae 'na rywfaint o risg ond mae'r cyngor wedi asesu sefyllfaoedd tebygol ac wedi penderfynu bod cymryd perchnogaeth o'r pier nawr yn llai o risg na pheidio gwneud unrhyw beth.

"Byddwn yn gweithio'n agos gyda menter gymunedol Shore Thing i sicrhau ein bod yn gallu symud 'mlaen yn adeiladol."

Gyda pherchnogaeth y pier wedi'i gadarnhau, gall Cyngor Conwy a'r gr诺p di-elw Shore Thing barhau 芒'r broses gwneud ceisiadau am arian ar gyfer y gwaith atgyweirio ac ailddatblygu.

Dywedodd cadeirydd Shore Thing, Jay Martin, fod y cynllun yn cynnwys t欧 bwyta gyda golygfeydd dros y bae uwchben theatr pafiliwn wedi ei adnewyddu, a llwybr cerdded gwydr sy'n dangos pensaern茂aeth y pier.

Gofynnwyd i'r prif bleidiau am eu hymateb i'r newyddion ac rydym yn disgwyl eu sylwadau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 91热爆 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol