Wikileaks: Manning i wynebu achos llys milwrol
- Cyhoeddwyd
Mae byddin America wedi cadarnhau y bydd Bradley Manning yn wynebu achos llys milwrol.
Mae honiadau bod Manning, 24 oed, wedi rhyddhau dogfennau milwrol a diplomyddol cyfrinachol.
Mae'r cyn swyddog cudd-wybodaeth gafodd ei fagu am gyfnod yn Hwlffordd, Sir Benfro, wedi ei gyhuddo o roi cymorth i'r gelyn a rhoi mwy na 700,000 o ddogfennau cyfrinachol i'r wefan Wikileaks.
Mae'r Cadfridog Uwchgapten Rhanbarth Milwrol Washington, Michael Linnington wedi cyfeirio'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn at y llys milwrol.
Tribiwnlys milwrol
Does dim dyddiad wedi'i bennu ar gyfer yr achos.
Petai'r llys yn ei gael yn euog fe allai gael ei garcharu am oes.
Fe wnaeth Manning ymddangos o flaen tribiwnlys milwrol ym mis Rhagfyr ac fe wnaeth yr erlyniad fynnu ei fod yn sefyll ei brawf.
Cafodd ei arestio ym mis Mai 2010.
Er iddo gael ei eni yn Oklahoma, treuliodd bedair blynedd yn Ysgol Tasker Milward yn Hwlffordd, ac mae ei fam yn dal i fyw yn Sir Benfro.
Dadl cyfreithwyr Mr Manning yn y rhag-wrandawiad oedd ei fod yn ceisio ymdopi gyda materion personol gan gynnwys ei rywioldeb.
Maen nhw'n dadlau y dylai rheolwyr Mr Manning fod wedi diddymu ei fynediad i wybodaeth gyfrinachol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2011