Achos llys am ryddhau gwybodaeth i Wikileaks
- Cyhoeddwyd
Mae tribiwnlys milwrol wedi argymell y dylai Bradley Manning wynebu achos mewn llys milwrol ar yr amheuaeth o ryddhau gwybodaeth gyfrinachol i Wikileaks.
Cafodd Mr Manning, dadansoddwr gwybodaeth, ei fagu yn Sir Benfro.
Mae o wedi ei gyhuddo o basio miloedd o ddogfennau cyfrinachol i'r wefan a oedd yn manylu am waith lluoedd America yn Irac ac Afghanistan.
Petai'r llys yn ei gael yn euog fe allai wynebu cael ei garcharu am oes.
Fe wnaeth y g诺r 24 oed ymddangos o flaen y llys ym mis Rhagfyr ac fe wnaeth yr erlyniad fynnu ei fod yn sefyll ei brawf.
Cafodd ei arestio ym mis mai 2010.
Sail gredadwy
Er iddo gael ei eni yn Oklahoma, treuliodd bedair blynedd yn Ysgol Tasker Milward yn Hwlffordd, ac mae ei fam yn dal i fyw yn Sir Benfro.
Mewn datganiad dywedodd Byddin America, bod pennaeth y tribiwnlys wedi dod i'r casgliad "bod 'na sail gredadwy i gredu ei fod o wedi cyflawni'r troseddau dan sylw" a bod angen i'r cyhuddiadau gael eu trosglwyddo i lys milwrol.
Fe fydd y cais yn cael ei basio i uwch swyddogion y fyddin.
Dadl cyfreithwyr Mr Manning yn y rhag-wrandawiad oedd ei fod yn ceisio ymdopi gyda materion personol gan gynnwys ei rywioldeb.
Maen nhw'n dadlau y dylai rheolwyr Mr Manning fod wedi diddymu ei fynediad i wybodaeth gyfrinachol.
Mae'r erlyniad yn dadlau bod Mr Manning wedi cyfathrebu yn uniongyrchol gyda sefydlydd Wikileaks, Julian Assange.
Wedi iddo gael ei arestio cafodd Mr Manning ei gadw yng ngharchar milwrol Quantico yn nhalaith Virginia.
Mae ei amgylchiadau yno wedi bod yn destun pryder rhyngwladol.
Cafodd ei symud ar Ebrill 20 2011 i garchar milwrol Fort Leavenworth yn Kansas.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2011