Noson Ola'r Prom - adolygiad
Sioe agoriadol yr Eisteddfod - ar lwyfan a theledu
Noson Ola'r Prom - y cyngerdd agoriadol
Yr oedd blas y Bara Caws yn gryf ar frechdan cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Conwy.
Nid bod hynny'n beth drwg, gan i'r cwmni hwnnw dros y blynyddoedd gynhyrchu sawl sioe gwerth chweil.
Yr oedd y dylanwadau i'w gweld ar y cynhyrchiad ac ar ddefnydd o actorion fel Gwyn Vaughan Jones ac Eilir Jones sy'n un o ffefrynau cyfoes Theatr Bara Caws.
Yn ddyn 'seciwiriti' ac yn berchen caffi Eidalaidd fel 'Papa' Caruso y mae o bob amser yn actor all ddenu ymateb gan gynulleidfa.
Ar y llwyfan hefyd yr oedd Mei 'Wali' Jones, un o hoelion wyth Bara Caws ddoe, ac fe fu'r Urdd yn ffodus i'w gael ef i lunio'r sgript ar gyfer y syniad hwn o eiddo Cefin Roberts.
Bu'n ffodus hefyd i ddenu un arall o gyfartal ddawn i ofalu am y caneuon a'r gerddoriaeth, Caryl Parry Jones.
Yr oedd pethau'n addo'n dda felly gyda'r sibrydion ar led i wario mawr fod ar y llwyfaniad.
Y bwriad oedd bod yno yn y pafiliwn ond am resymau hynod anniddorol methais ar y munud olaf a bod yn y fan a'r lle.
Ond diolch i'r drefn roedd S4C wedi rhagweld helbulon o'r fath ac yr oedd Noson Ola'r Prom yn cael ei dangos "yn fyw" chwedl hwythau ar y sianel.
Penderfyniad doeth o'm safbwynt i ond pe byddwn i'n gysylltiedig 芒 llwyfannu'r sioe fe fyddwn wedi poeni pa effaith fyddai hynny yn ei gael ar bresenoldeb.
O siarad wedyn a rhai a fu yno daeth yn amlwg i ni wylwyr teledu golli cryn dipyn o ysbryd y darn o'i wylio o bell a cholli'r awyrgylch arbennig sy'n perthyn i fod mewn theatr.
Er mai ar gyrion Llandudno yr oedd y perfformiad yr oedd yr hyn a welwyd ar y llwyfan yn nes o ran ysbryd i atgofion rhywun o'r dref tripiau Ysgol Sul honno, Y Rhyl, rai milltiroedd i'r dwyrain.
Heb amheuaeth Y Rhyl, math gwahanol iawn o dref lan m么r, oedd ym meddwl Mei Jones a Caryl - y naill wedi tripio yno yn blentyn a'r llall wedi ei magu o fewn tafliad carreg - wrth greu eu Llanrhygol hwy.
Noson Ola'r Prom, ac aeth rhai i feddwl yn syth am noson ola'r Proms yn Llundain - a chael eu siomi gan mai noson cau pen y mwdwl ar brom Llanrhygo / Y Rhyl a'i ffair wagedd oedd Noson Ola'r Prom hwn.
Teyrnged dyner i fyd sy'n darfod ac yn fodd i lawer ohonom hiraethu fe na all ond Cymry hiraethu.
Plethodd Mei Jones straeon serch, brad busnes, hwyl hogia ifanc a chynllwynio i'w hiraethfest a'r cyfan yn cael eu hatalnodi gan ganeuon Caryl ac ambell i sigl a swae.
Yn gynhyrchiad heb brif gymeriad ond nifer o brif gymeriadau yr oedd yn adloniant boddhaol er nid yn rhywbeth oedd yn codi rhywun i'r uchelfannau.
Mewn cynhyrchiad o'r fath roedd rhywun yn disgwyl y 'showstopars' ac alawon sy'n glynu - a chael ei siomi braidd er bod y darn cloi yn ddigon pleserus.
Ond yr oedd sawl golygfa afaelgar mewn cynhyrchiad ag iddo elfennau pantomeimaidd amlwg gan gynnwys y j么cs ciami.
Aeth g锚m b锚l droed i gyfeiliant cerddoriaeth Match of the Day i lawr yn dda iawn ac yr oedd golygfa damwain peiriannau ffair a gynllwynwyd yn drawiadol iawn.
Yn wir, gydol y cynhyrchiad gwelwyd defnydd deheuig iawn o set a chryn dipyn o 么l meddwl arni.
Ond wrth edmygu'r deheuig yr oedd hefyd deimlad anesmwyth, fel sy'n digwydd gyda chyn gymaint o ffilmiau y dyddiau hyn, fod clyfrwch technegol yn fodd i guddio - nid diffygion efallai, ond elfennau annigonol eraill megis gwrthdaro a thyndra theatrig.
Fel y llynedd dewisodd yr Urdd ymddiried llwyfan y 'cyngerdd' agoriadol i actorion profiadol ond rwy'n amau y byddai'n well gan lawer pe byddai'r mudiad wedi rhoi'r cyfle i aelodau'r mudiad heddiw ddisgleirio.
Neu'n wir, ateb dau ddiben trwy roi cyfle i ddoniau ifanc ar eu twf elwa ar rannu llwyfan mewn rhannau amlwg gyferbyn 芒 rhai fel Eilir Jones, Carys Eleri, Catrin Evans, Elin Llwyd, Mirain Haf ac yn y blaen.
Yn hynny o beth, collwyd cyfle.
A pham, wedi gwario cymaint, penderfynu ar ddim ond un perfformiad?
Glyn Evans