Hyderus o lwyddiant
Trefnydd yn hapus gyda'r ymgyrch godi arian yn lleol
Hyd yn oed cyn i neb gerdded drwy'r giatiau fore Llun yr oedd trefnwyr yr Eisteddfod yn hyderus y bydd yn llwyddiant ariannol.
Yn dilyn cyfarfod gyda'r wasg ar y maes bnawn Sul dywedodd trefnydd yr Eisteddfod, Aled Sion, fod yr Urdd wedi codi mwy nag oedd yn ei ddisgwyl o arian yn lleol - er bod hynny rai miloedd yn llai na'r nod o 拢230,000 a osodwyd i'r gronfa leol.
Ond er mai 拢230,000 oedd y nod dywedodd nad oedd yr Urdd ond wedi cyllidebu i gasglu 拢200,000.
"Ac yr ydym wedi casglu 拢210,000 i gyd - felly rydym wedi casglu mwy na'r disgwyl yn lleol," meddai.
"Mae hynny yn fonws inni," meddai.
Ychwanegodd ei fod yn hyderus y bydd yr Eisteddfod yn talu'r ffordd yn sgil cyfraniad o 拢300,000 arall gan yr Awdurdod lleol a thalodd deyrnged i Gyngor Sir Conwy am fod yn hael gydag arian a chyfraniadau eraill mewn da.
Talu teyrnged
Talwyd teyrnged i Gyngor Conwy hefyd gan Tudur Dylan Jones, Cadeirydd Bwrdd Eisteddfod a Chelfyddydau yr Urdd.
Disgrifiodd gymorth y cyngor fel "y petrol yn y car".
"Mae Cyngor Conwy wedi bod yn arbennig o hael," meddai. "Ac y mae'n rhaid canmol eu gweledigaeth i fentro i roi arian i hyrwyddo pobl ifanc i dyfu a datblygu a chyfrannu tuag at y gymdeithas," meddai.
Yr Eisteddfod hon yw un gyntaf Aled Sion yn drefnydd a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at weld gweithredu sawl datblygiad newydd, yn bennaf y rhan o'r maes a adnabyddir fel "Pentre Mistar Urdd" lle tynnir sylw at yr holl amrediad o weithgareddau y mae'r Urdd yn eu cynnig i bobl ifainc.
Rhywbeth newydd heddiw, dydd Llun, fydd gorymdaith o arweinwyr yr 糯yl yn cychwyn o babell Cyngor Sir Conwy drwy'r maes ac i'r pafiliwn ar gyfer y seremoni agoriadol - y tro cyntaf erioed i hynny ddigwydd.
Bydd gorymdaith arall ar y cyd ag S4C ddydd Mawrth - y tro hwn o'r Pafiliwn i babell S4C er mwyn tynnu sylw at ddarpariaeth newydd Planed Plant ar gyfer yr ifanc.
Wrth groesawu eisteddfodwyr i faes Gloddaeth talodd Dilwyn Price, cadeirydd y pwyllgor gwaith lleol, deyrnged i'r rhai a fu'n gweithio dros ddwy flynedd i sicrhau cynnal eisteddfod ar yr un maes am yr eildro mewn wyth mlynedd.
"Mae gen i d卯m cryf o gefnogwyr brwd sydd wedi gweithio'n ddiwyd i godi proffil yr 糯yl ac i sicrhau cyllid angenrheidiol. Rydym yn gweld y buddiannau pellgyrhaeddol mae'r sefydliad hwn yn ei gynnig i bob unigolyn sy'n cael eu cyffwrdd gan y mudiad ieuenctid hwn," meddai. .