Ennill y Goron
Diwrnod y coroni
Awdur yn mynd dan groen Aberystwyth
Ymgeisydd a ddaeth yn gydradd drydydd yng nghystadleuaeth y gadair ddydd Iau a gipiodd goron Eisteddfod yr Urdd eleni.
A dywedodd Huw Owen fod tref Aberystwyth ymhlith y cant o mil o ddylanwadau arno fel ysgrifennwr.
"Mae cant a mil o ddylanwadau arnaf i - rwy'n darllen cymaint alla i - ond rwy'n credu mai'r prif ddylanwad yw Aberystwyth ei hun. Y dref a'r bobl sydd yno.
"Os ydych chi'n byw yno ddigon hir mae'n mynd dan eich croen chi a chwithau'n mynd dan ei groen e felly dygymod 芒'r lle yna a cheisio deall y lle yna, dyna'r prif ddylanwad," meddai.
"Mae cymaint o amrywiaeth yna gyda'r coleg a'r Llyfrgell - cymaint o amrywiaeth pobl cymaint o bobl wedi cael eu gwasgu at ei gilydd ac yn gorfod cydfyw ac yn mwynhau cydfyw. Dyna'r arbenigedd fuaswn i'n dweud," ychwanegodd.
Ymhlith ei ddiddordebau eraill rhestrodd b锚l-droed a chwarae p诺l "Lot o b诺l, gormod o p诺l efallai!".
Mae hefyd yn rhedeg cymdeithas ar gyfer siaradwyr Cymraeg ail iaith.
Am dri gwahanol ddarn o ryddiaith ar y testun 'Gwerth' y gofynnwyd yn y gystadleuaeth a dywedodd Eigra Lewis Roberts fod rhywfaint o anghydweld rhyngddi hi 芒'i chyd feirniad, Cefin Roberts, pa ymgais oedd orau gyda Cefin Roberts yn ffafrio'r ymgais a ddaeth yn ail a hithau ymgais Huw Owen.
Ond gyda trwch blewyn rhwng y ddau daeth y ddau i ddealltwriaeth yn y diwedd.
"Mae yna lawer iawn o bethau yn debyg yng ngwaith y ddau , coegni, gwawd, ac eto mae yna gydymdeimlad a thosturi yna hefyd," meddai Eigra Lewis Roberts yn traddodi'r feirniadaeth.
Ychwanegodd bod "rhywbeth arbennig" yn ngwaith Huw ond cwynodd am yr "holl Saesneg" yn un o'r darnau a sgrifennodd gan ddweud mai "gimic gwirion" wedi ei wneud o'r blaen hyd at syrffed ydoedd.
Y trydydd darn, meddai, oedd pinacl ei waith.
"Ac fe gewch chi gyfle i fwynhau, a chredu greda i, wrth ddarllen honno," meddai.
Hwn oedd y tro cyntaf i Huw, sy'n fyfyriwr ymchwil yn Aberystwyth, ymgeisio am y goron.
"Ac i'w hennill hi ar y cais cyntaf, mae'n anhygoel. Dyw e heb cweit suddo mewn eto," meddai.
YN ei dri darn dywedodd iddo ymdrin 芒 thri math o 'werth'; gwerth haniaethol ar ffurf masg, gwerth hynafiaeth a'r hyn a fu ac yn drydydd gwerth person a ddarganfuwyd yn farw ar draeth.