Amddiffyn beirniaid ifanc
Mae llywydd y dydd yn yr Eisteddfod wedi amddiffyn beirniaid yr Eisteddfod yn dilyn beirniadaeth eu bod yn rhy ifanc ac yn ddibrofiad.
Awgrymodd Lowri Hughes sy'n diwtor drama gydag Ysgol Glanaethwy y gallai beirniaid ifanc fod mewn mwy o gytgord 芒 chystadleuawyr gan eu bod yn nes atynt o ran oedran.
Dywedodd wrth ein gohebydd ei bod yn cydnabod fod profiad yn werthfawr mewn beirniaid ond ychwanegodd:
"Sut mae person ifanc i ennill y profiad hwnnw os nad yw'n cael y cyfle i feirniadu?"
Ychwanegodd bod hwn yn rhywbeth y gallai'r Urdd edrych arno ac efallai roi rhai ifanc i gydweithio 芒 rhai mwy profiadol a sicrhau fod profiad yn cael ei ennill trwy hyfforddiant.
Ychwanegodd mai un o fanteision posibl cael beirniaid ifanc fyddai eu bod yn cymryd golwg wahanol, fwy cyfoes, ar bethau.