91热爆

Canu Gwerin

top
Clerorfa

Yn hanesyddol o ran cerddoriaeth werin, mae Cymru wedi bod yn wahanol i wledydd eraill oherwydd ein bod wedi dal gafael ar yr iaith.

Gallech ddweud fod yna adfywiad mewn canu gwerin yng Nghymru gyda nifer o gerddorion Cymreig cyfoes yn dangos dylanwad y genre yn eu gwaith.

Stephen Rees, aelod o'r gr诺p gwerin Crasdant ac Arfon Gwilym, canwr ac arbenigwr gwerin adnabyddus ac ysgrifennydd CLERA - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru - sy'n rhoi ein traddodiadau gwerin yn eu cyd-destun:

"Ym mhob traddodiad byw sydd erioed wedi bod mae yna elfennau tebyg rhwng heddiw a'r cyfnodau cynnar. Mae cyfeiriadau gan ysgolheigion Rhufeinig yn y cyfnod cyn Crist at allu cerddorol y Celtiaid, pwysigrwydd y beirdd a'r telynorion ac at y drefn gaeth roedd rhaid iddynt ei dilyn."

"Roedd yn rhaid i'r derwyddon, ceidwaid y traddodiad yma, ddilyn hyfforddiant am flynyddoedd i berffeithio eu crefft. Roeddent yn cadw'r cyfan ar gof a chadw, doedd dim wedi ei 'sgwennu. Tan yr 19eg a'r 20fed Ganrif, traddodiad llafar oedd o wedi ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth."

"Fe ddisgrifiodd Gerallt Gymro hefyd hoffter y Cymry o ganu mewn mwy nag un llais - hynny yw, mewn harmoni.

"Roedd mwy o bwyslais ar y llais nag ar offerynnau - yn sicr erbyn yr 20fed Ganrif ychydig a wnaeth barhau efo'r traddodiad offerynnol - roedd Nansi Richard yn un ohonyn nhw.

"Mae'n bwysig cofio bod canu gwerin yn draddodiad llafar. Roedd y bobl wnaeth gasglu'r alawon traddodiadol a'u cofnodi ar bapur wedi gwneud hynny drwy eu nodi mewn solffa neu nodiant ar bapur gan, drwy hynny, drosglwyddo'r gerddoriaeth o un byd i fyd arall mewn ffordd. Doedd y bobl wnaeth greu'r gerddoriaeth yn wreiddiol ddim yn darllen cerddoriaeth ac yn chwarae o'r glust. "

"Ond yna fe wnaeth y Cymry gofleidio'r syniad o barchusrwydd a mabwysiadu diwylliant rhyngwladol - ers cyfnod Br芒d y Llyfrau Gleision mae'r Cymry wedi bod eisiau ymbarchuso. Yn yr un modd ag yr oedd pobl yn israddio'r iaith roedd 'na 'edrych i lawr' ar bethau cynhenid Gymreig hefyd ac roedd hynny'n cynnwys cerddori cynhenid."

"Fe gafodd effaith y diwygiad Methodistaidd ddylanwad mawr yn ddi-os. Mi wnaeth ladd y traddodiad gwerin, digwyddiadau fel gwyliau mabsant, twmpathau dawns ac yn y blaen. Mae cofnod o Thomas Charles yn brolio ei fod wedi dod 芒'r arfer o ganu'r i ben yn y Bala - roedd y delyn yn cael ei hystyried yn offeryn y dafarn erbyn hynny."

"Yn y canol oesoedd hefyd fe gafodd y cl锚r eu gwahardd mewn deddf gan Edward y 1af ac yn ddiweddarach gan Harri'r 4ydd - sef, yn ddiddorol, yn union wedi gwrthryfel Llywelyn a gwrthryfel Glynd诺r. Roedd y clerwyr wrth gwrs yn crwydro'r wlad ac yn amlwg yn ddolenni cyswllt rhwng gwahanol gymunedau, ac yn canu caneuon gwladgarol o bosib."

"Fe wnaethon ni gofleidio'r traddodiadol rhyngwladol i'r fath raddau nes inni osgoi ein traddodiadau gwerin, drwy ddewis y diwylliant rhyngwladol, a oedd yn cynnwys cerddoriaeth glasurol."

"Ond roedd yna hanfod ddeinamig i'r cerddori anffurfiol -elfen gystadleuol yn y canu cylch ers talwm - sef canu penillion yn fyrfyfyr. Byddai'r telynor yn taro alaw ac yna byddai'r canwr naill yn canu geiriau neu'n cofio penillion oedd yn cyd-fynd nes ei fod yn anghofio neu'n methu mynd ymlaen a byddai'r nesaf yn ymuno!"

Erbyn heddiw mae Canu Gwerin yng Nghymru wedi adennill tipyn o boblogrwydd gyda sefydliadau fel CLERA yn arbennig yn hybu'r traddodiad cerddorol hwn. Yn 2006 daeth 40 o gerddorion gwerin ynghyd i ffurfio 'Clerorfa' - cerddorfa werin gyntaf Cymru i ddathlu penblwydd y sefydliad yn 10 oed.

Cyhoeddwyd yr erthygl yma'n wreiddiol ar wefan 91热爆 Lleol.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu 么l i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.