Y Ddraig Goch
28 Ionawr 2010
Er bod y ddraig wedi bod yn arwyddlun i Gymru ers canrifoedd, dim ond yn 1959 y daeth y ddraig goch yn faner swyddogol y genedl.
Defnyddiwyd y ddraig fel symbol milwrol gan y Rhufeiniaid yn yr oesoedd cynnar. Yna, ym Mrwydr Hastings yn 1066 cafodd y ddraig ei defnyddio gan fyddin brenin Lloegr wrth ymladd yn erbyn y Normaniaid.
Disgrifa Nennius, yn ei lyfr Historia Brittonum o'r nawfed ganrif, y frwydr rhwng draig goch y Brythoniaid a draig wen y Sacsoniaid yn Ninas Emrys, ger Beddgelert: y ddraig goch sydd yn ennill.
Cyfeiriodd Sieffre o Fynwy hefyd at yr hanes yn naroganau Myrddin yn y ddeuddegfed ganrif. Yn hwyrach, mae s么n am y dreigiau yma yn chwedl 'Cyfranc Lludd a Llefelys' yn y Mabinogi.
Y ddraig goch yw'r unig faner o wledydd y Deyrnas Unedig nad yw'n ymddangos ar Faner yr Undeb. Mae hyn yn bennaf oherwydd Statud Rhuddlan 1284, pan gyflwynodd Edward I gyfraith droseddol Lloegr i Gymru, a Deddfau Uno 1536 a 1543, pan benderfynodd senedd Lloegr uno Cymru'n wleidyddol gyda Lloegr.
Yn ystod teyrnasiad Harri VIII roedd y ddraig goch ar gefndir gwyn a gwyrdd yn aml i'w gweld ar longau'r Llynges Frenhinol. Newidiodd hyn o dan arweiniad James I pan roddwyd llun ungorn ar faneri yn lle'r ddraig.
Dychwelodd yn 1807, ac yn 1953 ychwanegwyd 'Y ddraig goch ddyry cychwyn' fel arwyddair i'r faner. Daw'r llinell hon o gywydd gan Deio ab Ieuan Ddu, bardd o'r bymthegfed ganrif oedd yn hanu o blwyf Llangynfelyn, Ceredigion.
Yna, ar Chwefror 22 1959 datganwyd mai'r ddraig goch ar gefndir gwyn a gwyrdd oedd baner genedlaethol Cymru yn dilyn cais gan Orsedd y Beirdd. Ni ychwanegwyd yr arwyddair at y faner swyddogol.
O holl wledydd y byd, dim ond Cymru a Bhutan sydd 芒 llun draig ar eu baneri. Gwlad fechan ynghanol mynyddoedd yr Himalaya yw Bhutan ac ar ei baner mae draig wen ar gefndir melyn a choch.
Cafwyd gwrthwynebiad i faner y ddraig goch yn 2007 pan ddywedodd y Parchedig George Hargreaves, arweinydd y Blaid Gristnogol Gymreig, ei fod yn gweld y ddraig fel arwydd o'r diafol. Dywedodd y dylai'r symbol Satanaidd yma gael ei ddisodli 芒 , sef croes felen ar gefndir du.
Mwy
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.