Twf Seciwlariaeth 1905 - presennol
Wrth i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddymchwel yr hen drefn ar draws Ewrop, edwino gwnaeth Cristnogaeth drefniadol yng Nghymru.
Dywedodd David Lloyd George wedi'r rhyfel y dylid creu gwlad fyddai'n addas i arwyr. Ond buan iawn y teimlwyd mai addewid gwag oedd hwn.
Yn sgil distryw'r rhyfel, roedd pobl yn cwestiynu'r hen gredoau. Bu datblygiadau mewn gwleidyddiaeth, addysg a'r cyfryngau yn adlewyrchu'r newid yma.
Nid oedd gair Duw bellach yn cael ei dderbyn yn ddiymwad ar lawr gwlad. Roedd syniadaeth chwyldroadol Darwin am seiliau tarddiad dynoliaeth wedi bod yn hysbys ers dros hanner canrif, ac roedd fersiwn y Beibl am hanes y Creu bellach yn cael ei wrthod.
Roedd sosialwyr ifanc fel Aneurin Bevan, yn Nhredegar yn gwrthod syniadaeth eu rhieni Anghydffurfiol gan bledio achos Marcsiaeth.
At hyn oll, bu effaith y dirwasgiad, o ganol yr 1920au ymlaen yn gyrru rhai Cristnogion i geisio gwneud rhywbeth i wella cyflwr byw'r bobl, yn enwedig yng nghymoedd tlawd de ddwyrain Cymru.
Yn hyn o beth, gweithredu oedden nhw yn nhraddodiad y Sosialaeth Gristnogol y gwnaeth y dyngarwr o'r 19eg Ganrif, Robert Owen, o'r Drenewydd ym Mhowys, gymaint i'w hyrwyddo. Creodd egwyddorion Robert Owen don newydd o weithgaredd Cristnogol yn y cymoedd.
Yn Nhonypandy fe agorodd y gweinidog Wesleaidd Rex Barker ganolfan gymdeithasol enwog yn Neuadd Ganolog y dref. Yn 1936 fe ysgrifennodd lyfr dylanwadol yn seiliedig ar ei brofiadau, 'Christ In The Valley of Unemployment'.
Hefyd, yn y Rhondda, fe sefydlodd y Crynwyr ganolfan gymdeithasol arall yn Nhrealaw, dan yr enw Maes-Yr-Haf. Roedd y gweithgareddau yma - ac eraill o'u math - yn tystio i amcanion da Cristnogion ymroddgar, ond cafodd eu hymdrechion eu llesteirio gan faint y dioddefaint ar y pryd.
Yn y diwedd, yr Ail Ryfel Byd a adfywiodd economi Cymru drwy gynyddu'r galw am lo ac adeiladu ffatr茂oedd arfau er mwyn helpu'r ymdrech ryfel, ond bu'r rhyfel a'r cyfnod yn union wedi'r rhyfel yn gyfnod anodd i grefydd.
Dangosodd bwletinau newyddion y sinem芒u erchylltra rhyfel, ac er i Gristnogion ymateb drwy ddweud mai gweithred ddynol oedd rhyfel, fe ysigwyd ffydd y bobl serch hynny.
Wedi'r rhyfel, fe ddaeth heddwch 芒 gwelliannau'r byd modern i fywydau'r mwyafrif. Roedd y car modur yn creu cymdeithas fwy symudol. 'Doedd pobl ddim yn gaeth i'w cymunedau bellach ar y Saboth, ac roedd y dewis o fynd i'r capel deirgwaith ar y Sul yn llai deniadol o hyd.
Bellach, gallent yrru i lan y m么r, neu fynd i weld perthnasau. Wrth i gyfyngiadau daearyddol gael eu llacio, fe ymddangosai fywyd y capel yn gaethiwus mewn cymhariaeth.
Mae ymadrodd Dylan Thomas,, 'bible-black' allan o'i ddrama 'Dan y Wenallt' yn cyfleu'r ddelwedd ddiflas o grefydd a oedd bellach yn gyffredin. Felly hefyd wnaeth y dyfyniad enwog yr awdur o'r Rhondda Gwyn Thomas - "There are still parts of Wales where the only concession to gaiety is a striped shroud."
Roedd bodolaeth y ddeddf Cau ar y Sul mewn rhannau o Gymru hyd at y 1990au hefyd yn cyfleu'r syniad o ddiwylliant negyddol oedd yn llad ar bleserau syml bywyd. Daeth ergyd arall pan fu newid mawr yn nisgwyliadau moesol pobl yn y 1970au.
Doedd fawr o amynedd gan feddylwyr newydd y cyfnod tuag at gulni'r capeli, ac fe ddaeth yr ergyd hon ar adeg pan oedd y genhedlaeth fawr olaf o fynychwyr y capeli yn marw o'r tir.
Gan nad oeddent wynebau newydd yn dod yn lle'r hen do, buan y dechreuodd y capeli, gau. Cafodd nifer eu troi yn gartrefi, neu'n siopau. Mewn un achos, fe gafod capel ei droi'n sinema a ddangosai ffilmiau i oedolion. Gadawyd eraill i bydru.
Erbyn heddiw, mae ffigyrau'n dangos mai llai nag un mewn deg o bobl sy'n mynychu capel neu eglwys yn rheolaidd yng Nghymru heddiw, ychydig yn llai na'r ffigyrau ar gyfer yr Alban a Lloegr.
Fodd bynnag, mae cyfrifiad 2001 yn dangos bod dros 70% o bobl Cymru o hyd yn galw eu hunain yn Gristnogion, sy'n dangos, efallai, er nad ydynt yn addoli Duw yn gyhoeddus, mae eu bywydau yn cael eu dylanwadu'n gryf gan egwyddorion a gwerthoedd Cristnogol.
Ac nid oes syndod yn hynny o beth mewn termau hanesyddol, oherwydd un o nodweddion amlyca'r Cymry yw crefydd Gristnogol.
Ers cyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig, roedd cyfuniad o Gristnogaeth a'r iaith Gymraeg, wedi gwneud y Cymry'n genedl ar wah芒n, gyda nodweddion gwahanol i'r llwythau paganaidd Germaneg a'u disodlodd hwy yn raddol o dir Prydain wedi hynny.
Felly os bydd Cristnogaeth yn marw o'r tir yng Nghymru, fe gyfyd y cwestiwn sut fath o wlad fydd Cymru.
Ni ellir gwadu i Gristnogaeth wneud cyfraniad pwysig i ddatblygiad Cymru ers iddi ddod i Brydain bron i ddwy fil o flynyddoedd yn 么l. Ac os mae'n wir na ellir rhagweld dyfodol mae Cristnogaeth yng Nghymru, yna mae'n wir hefyd na ellir deall hanes Cymru heb gydnabod a pharchu ei gwreiddiau Cristnogol.
Mwy
- Crefydd Cyn Cristnogaeth
- Y Rhufeiniaid a dyfodiad Cristnogaeth
- Oes y Seintiau
- Y Bygythiad Normanaidd
- Tywysogion ac Esgobion
- Y Diwygiad Protestannaidd
- Rhyfel Cartref
- Cychwyn Anghydffurfiaeth
- Emynwyr a Phregethwyr
- Pobl Anghydffurfiol
- Diwydiant a Dirwest
- Diwylliant a Gwleidyddiaeth
- Y Diwygiad
- Twf Seciwlariaeth
- Cymru Amlddiwylliannol
Cysylltiadau'r 91热爆
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.