Rhyfel Cartref 1640 - 1689
Daeth y Rhyfel Cartref i ben gyda dienyddiad Siarl y Cyntaf a sefydlu'r Weriniaeth Brotestannaidd. Ond pan ddaeth yr Adferiad, fe erlidiwyd sawl sect Brotestannaidd. Yng Nghymru, y Crynwyr ddioddefodd waethaf.
Mae'r cyfnod a arweiniodd at y Rhyfel Cartref yn yr 1640au yn llawn digwyddiadau gwleidyddol, newidiadau cymdeithasol, datblygiadau economaidd, a mudiadau crefyddol. Roedd Bryste yn ganolfan ddylanwadol iawn o ran Anghydffurfiaeth gynnar, ac nid yw'n gyd-ddigwyddiad i'r capel Anghydffurfiol cyntaf yng Nghymru gael ei sefydlu gan Annibynwyr yn Llanfaches, Sir Fynwy, yn 1639, yn agos at y ffin 芒 Lloegr.
Roedd y mudiad Piwritanaidd yn denu pobl oedd yn anfodlon gyda theyrnasiad Siarl y Cyntaf, ac fe arweiniodd hyn yn y pen draw at newid yn y gyfundrefn ac at weithred a fu tan hynny yn anodd ei dychmygu- dienyddiad cyfreithiol Brenin Lloegr yn 1649. Dilynwyd hyn gan sefydlu'r Weriniaeth Brotestannaidd dan arweiniad Oliver Cromwell.
Un o ddeddfau cyntaf y gyfundrefn Biwritanaidd oedd 'Deddf Lledaeniad yr Efengyl' yn 1650. Yn ystod y rhyfel, roedd Cymru bron yn gyfan gwbl gefnogol i'r brenin, teyrngarwch a gadarnhaodd y farn Biwritanaidd fod Cymru yn 'gornel dywyll'.
Yng Nghymru felly fe weithredwyd y ddeddf newydd er mwyn cael gwared ar offeiriaid gwrthwynebol. Daeth y g诺r o Sir Faesyfed, Vavasor Powell, i amlygrwydd fel un oedd yn frwd dros y ddeddf newydd.
Un o ganlyniadau eraill y ddeddf oedd creu ysgolion newydd a ddysgodd blant i ddarllen ac i ysgrifennu, er i'w gwaith gael ei lesteirio gan y ffaith mai Saesneg oedd unig iaith y dysgu. Roedd Cymru dal yn wlad uniaith Gymraeg i raddau helaeth bryd hynny.
O fewn ychydig flynyddoedd wedi marwolaeth Cromwell yn 1658 dychwelodd y frenhiniaeth i Brydain. Cyflwynodd yr Adferiad gyfres o fesurau cyfreithiol yn erbyn sectau Anghydffurfiol, mesurau a gafodd eu hadnabod fel 'Cod Clarendon'.
Yng Nghymru, erlidiwyd Crynwyr Sir Drefaldwyn. Un o'r achosion enwocaf oedd achos y teulu Lloyd o Ddolobran, hen deulu amlwg a pharchus. Cafodd aelodau o'r teulu eu taflu i'r carchar o ganlyniad i'w credoau. Ymatebodd rhai o'r Crynwyr drwy symud i drefedigaethau yn America i chwilio am oddefgarwch crefyddol, gan ddod, maes o law, yn aelodau amlwg o gymuned y Crynwyr yn America.
Sect Brotestannaidd arall y bu'n rhaid i'w haelodau ffoi i America oedd y Bedyddwyr. John Miles oedd sefydlydd yr eglwys gyntaf i Fedyddwyr yng Nghymru yn Ilston, G诺yr, yn 1649. Yn ystod yr 1650au fe adeiladodd y sect ar y llwyddiant hwn, gan sefydlu capeli mewn mannau eraill ar draws de Cymru.
Eto i gyd, fe roddodd yr Adferiad ddiwedd ar y cynnydd yma yn sydyn iawn. Edwino wnaeth y capeli a diwedded John Miles ei ddyddiau yn y dre a sefydlodd yn Rhode Island, America, sef 'Swansey'.
Ar ddiwedd y degawd, yn 1689, fe esgynodd y Brenin William a'r Frenhines Mari, ill dau yn Brotestaniaid, i orsedd Lloegr. Hwn oedd y 'Chwyldro Gogoneddus'. Dan deyrnasiad William a Mari, fe basiwyd y Ddeddf Hawliau, a roddodd gychwyn ar gyfnod o oddefgarwch crefyddol.
Mwy
- Crefydd Cyn Cristnogaeth
- Y Rhufeiniaid a dyfodiad Cristnogaeth
- Oes y Seintiau
- Y Bygythiad Normanaidd
- Tywysogion ac Esgobion
- Y Diwygiad Protestannaidd
- Rhyfel Cartref
- Cychwyn Anghydffurfiaeth
- Emynwyr a Phregethwyr
- Pobl Anghydffurfiol
- Diwydiant a Dirwest
- Diwylliant a Gwleidyddiaeth
- Y Diwygiad
- Twf Seciwlariaeth
- Cymru Amlddiwylliannol
Cysylltiadau'r 91热爆
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.