Y Bygythiad Normanaidd 1066 - 1135
Gyda s锚l bendith y Pab, fe lwyddodd y Brenin William i goncro Lloegr yn 1066, ac fe adawodd i arglwyddi Normanaidd ymosod ar Gymru a chreu arglwyddiaethau ffiwdal. Aeth y meistri newydd hyn ati i ddiwygio'r eglwys yng Nghymru.
Wedi iddo gipio coron Lloegr fe adawodd Gwilym Goncwerwr rwydd hynt i arglwyddi Normanaidd i ymsefydlu ar hyd ffin Cymru. O'r fan honno, fe wnaethant ymosod ar Gymru.
Roedd Cymru mewn anhrefn yn dilyn marwolaeth y brenin Cymreig Gruffudd ap Llywelyn yn 1063. Yn 1081 ymwelodd Gwilym 芒 Thyddewi, gan honni dangos parch ond mewn gwirionedd er mwyn arddangos ei rym dros y brodorion.
Trafodwyd cytundebau ond aeth pethau'n fl锚r wedi marwolaeth Gwilym yn 1087. Yn absenoldeb unrhyw b诺er i'w rhwystro, dechreuodd arglwyddi Normanaidd annibynnol greu tywysogaethau bychain yng Nghymru. Y cyntaf i gael eu cipio oedd Aberhonddu a Phenfro, a ddilynwyd gan Forgannwg. Erbyn diwedd y 10fed ganrif, sefydlwyd presenoldeb Normanaidd yng ngorllewin Cymru diolch i brif arf yr ymosodwyr, y castell. Roedd yn ymddangos y byddai'r Cymry'n dioddef yr un dynged 芒'r Saeson, a phlygu dan iau'r Normaniaid.
Gyda'r Normaniaid yn pwyso ar Gymru, ateb yr eglwys frodorol oedd cynhyrchu gweithiau megis 'Buchedd Dewi Sant'. Yr awdur oedd Rhigyfarch, mab yr esgob Sulien, ac fe wnaeth y gwaith ym mynachlog Llanbadarn, ger Aberystwyth, tua 1090. Y bwriad oedd rhwystro dylanwad ymwthgar Caergaint, a oedd wedi dechrau pwyso ar Gymru yn fuan wedi i'r Normaniaid goncro Lloegr.
Erbyn hyn, roedd tua 600 mlynedd wedi mynd heibio wedi marwolaeth Dewi Sant, felly mae nifer o hanesion y 'Buchedd' yn ddeunydd mytholeg grefyddol gyffredin, ond mae digon o fanylion bywgraffyddol i ddangos bod Dewi yn arloeswr Cristnogol yng Nghymru. Yn wir, cymaint oedd dylanwad y 'Buchedd' fel y cafodd Dewi ei ganoneiddio gan y Pab Callistus II yn 1123. Ef yw'r unig sant 'swyddogol' o 'Oes y Saint'.
Daeth y meistri Normanaidd newydd wyneb yn wyneb ag eglwys Gymreig oedd yn dal i gadw nifer o'i nodweddion hynafol. Roedd nifer o'r prif eglwysi wedi dechrau eu bywydau fel mynachlogydd, yn aml wedi eu cynnwys o fewn mynwentydd crwn, tra bod nifer o'r rhai llai wedi eu sefydlu'n wreiddiol fel mameglwysi i sefydliadau mwy, ac eraill hefyd wedi eu sefydlu fel capeli preifat i ryw arglwydd Cymreig lleol.
Roedd llawer o draddodiadau Cristnogol Cymru yn peri syndod i'r meistri newydd, megis y diffyg ffiniau daearyddol ar esgobaethau, a'r arfer bod offeiriaid yn priodi ac yn magu teulu a fyddai wedyn yn gwasanaethu yn yr eglwys. Cyflwynodd y Normaniaid esgobaethau 芒 ffiniau oedd wedi eu diffinio'n ddaearyddol, ond nid oedd eu hymgais i orfodi offeiriaid i aros yn sengl ac yn ddiwair yn gwbl lwyddiannus. Roedd offeiriaid priod gyda phlant i'w cael hyd at y Diwygiad Protestannaidd.
Roedd y newidiadau crefyddol yma yn fodd arall i dynhau gafael y Normaniaid ar Gymru. Yr esgob cyntaf i dynnu llw o ffyddlondeb i Archesgob Caergaint oedd Urban o Landaf yn 1107, ac erbyn canol y ganrif roedd holl esgobion Cymru wedi gwneud yr un peth. Enghraifft arall o'r diwygiadau hyn oedd cyflwyno urddau crefyddol cyfandirol. Y drefn fynachaidd agosaf at reolaeth Normanaidd oedd honno a sefydlwyd gan Sant Benedict. Wrth i'r castell Normanaidd cyntaf yng Nghymru gael ei godi yng Nghasgwent yn 1067, roedd gwaith yn mynd rhagddo yn yr un dref i adeiladu'r fynachlog Benedictaidd gyntaf yng Nghymru. Fe'i cwblhawyd yn 1071.
Ynghanol y ddeuddegfed ganrif, daeth urdd fynachaidd arall o Ffrainc, y Sistersiaid, i Gymru. O fewn rhyw dri deg mlynedd ar 么l iddynt gyrraedd, roedd y 'Mynaich Gwynion', yn wahanol i'r Benedictiaid, wedi uniaethu gyda'r brodorion Cymreig, sefyllfa a fyddai'n cael effaith ar ymgais y Normaniaid i goncro Cymru yn y dyfodol.
Mwy
- Crefydd Cyn Cristnogaeth
- Y Rhufeiniaid a dyfodiad Cristnogaeth
- Oes y Seintiau
- Y Bygythiad Normanaidd
- Tywysogion ac Esgobion
- Y Diwygiad Protestannaidd
- Rhyfel Cartref
- Cychwyn Anghydffurfiaeth
- Emynwyr a Phregethwyr
- Pobl Anghydffurfiol
- Diwydiant a Dirwest
- Diwylliant a Gwleidyddiaeth
- Y Diwygiad
- Twf Seciwlariaeth
- Cymru Amlddiwylliannol
Cysylltiadau'r 91热爆
Hanes Cymru
Creu'r genedl
Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.