91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Dylan Davies yn cael ei gadeirio. Cadair gyntaf Dylan
Mai 2003
Nos Wener y Groglith, yn Eisteddfod Gadeiriol Llandderfel, enillwyd cadair yr eisteddfod gan Dylan Davies, Penbryn Coch, Parc.
Y dasg oedd cyfansoddi pedair cerdd, caeth neu rydd, ar y thema Cadwraeth'.

Ysgrifennodd Dylan awdl i Feirion, ac yn ei feirniadaeth, dywedodd y beirniad, Moi Parri Treffynnon, fod yma fardd da, a chynganeddwr medrus.

Roedd yna lawenydd mawr yn Llandderfel y noson honno wrth weld Dylan yn ennill ei gadair gyntaf. Roedd y gadair yn hardd iawn ac yn rhodd gan Gontractwyr Coedwigaeth Till Hill, Llandderfel.

Roedd yn addas iawn mai Mair Penri oedd yn llywio seremoni'r caderirio, ac fe soniodd hi am gyfraniad Dylan i'w fro, yn aelod gwerthfawr o gapel Parc, ac yn cynhyrchu dramâu.

Mae Dylan yn cydnabod ei ddyled i'r Prifardd Elwyn Edwards y Bala, gan mai yn ei ddosbarthiadau ef y dysgodd gynganeddu.

Yn cyfarch y bardd roedd Ian Ll. Hughes ac Elwyn Edwards, a chanwyd cân y cadeirio gan Arfon Williams.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý