91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Alejandro Jones O odre'r Aran ...
... i odre'r Andes
Awst/Medi 2005
Erbyn i'r rhifyn nesaf o'r Pethe ddod o'r wasg mi fydd un newid mawr wedi digwydd yn Llanuwchllyn, mo fydd Alejandro Jones wedi dychwelyd i'r Wladfa.
Ychydig iawn ohonom oedd yn ei adnabod fis Ebrill pan gyrhaeddodd Odre'r Aran wedi cael triniaeth ofnadwy yn Llundain gan swyddogion mewnfudo.

Dweud y gwir bu bron iddo fo gael ei yrru yn ôl i Batagonia heb hyd yn oed weld Cymru. Ond cyrraedd Llanuwchllyn wnaeth o, ac ers iddo gyrraedd yma fe fyddech yn taeru ei fod o wedi bod yma erioed. Mae ei gymeriad hoffus a'i ddawn gerddorol arbennig wedi bod yn help mawr yn hynny o beth. Bu'n canu fel unawdydd mewn ambell gyngerdd gyda Chôr Godre'r Aran ac wrth gwrs roedd yn canu efo'r côr ddiwrnod eu buddugoliaeth yn Llangollen. Mae'n aelod o'r côr cymysg yn y pentref hefyd ac mae wedi bod yn difyrru amryw o gymdeithasau'r ardal.

Er nad oedd gan deulu Alejandro gysylltiad uniongyrchol â Llanuwchllyn mae ei fagwraeth yng Nghwm Hyfryd, wrth droed yr Andes, wedi bod mo Gymraeg fel ei fod wedi ymdoddi i'r gymdeithas yma mewn dim.

Bydd yn chwith iawn ar dy ôl Alejandro ond dymuniadau gorau i ti ar dy daith adref ac ar dy briodas fis Chwefror.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý