91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Pethe Penllyn
Blodyn y Gwanwyn - Daffodil Nodiadau Natur
Ebrill 2003
Arwyddion dymunol o'n blaenau...

Beth am wrando a chwilio am yr arwyddion cyntaf fod y gwanwyn bron a'n cyrraedd unwaith yn rhagor? Efallai fod y dywediad 'un wennol ni wna wanwyn' yn ddigon gwir, ond o leiaf mae'n dangos i ni fod byd natur yn newid y ystod y tymor hardd yma, gan ddod â rhyfeddodau newydd yn ei sgil.

Yn draddodiadol, roedd y gwanwyn yn cael ei ddathlu fel cyfnod o ail enedigaeth, ac roedd hyn yn arbennig o wir hyd yn gymharol ddiweddar pan oedd bywydau pobl yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar ffrwythlondeb tymhorol y tir. Hefyd, mae manteision ysbrydol yr adfywio yma'n hollol amlwg, a chredir mai dathliad paganaidd oedd Gwyl Fai y wreiddiol, a oedd yn arwydd o ddechrau newydd.

Felly, does dim syndod fod pawb yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddyfodiad y gwanwyn. Yn ôl pob tebyg, ein coetiroedd yw'r rhai cyntaf i ddangos bod y gwanwyn ar ei ffordd, wrth i'r planhigion sydd ar lawr y fforest gystadlu â'i gilydd am olau. Y planhigyn llygad Ebrill gyda'i flodau melyn yw'r cyntaf i flodeuo ym mis Mawrth ac yn dynn wrth ei sodlau fe welwch chi blanhigion fel blodyn y gwynt sydd â blodau fel sir, a chlychau'r gog, sydd â dail sy'n sgleinio fel swllt. Yn ystod mis Mai, mae clychau'r gog yn garped glas ar lawr ein coetiroedd, a dim ond mewn clystyrau sy'n doreithiog blanhigion o'r fath y mae'r blodau yma'n tyfu gan eu bod nhw'n gallu hadu cyn i ffrondiau'r rhedyn ar coed derw sy'i deilio'n hwyr gael y gorau arnyn nhw.

Mae ein coetiroedd yn deffro'r adeg yma o'r flwyddyn i drydar cynhyrfus yr adar. Y siff-siaff, sydd a'i enw'n dynwared ei gri, yw'r cyntaf o blith yr adar sy'n mudo i gyrraedd Cymru o Affrica, ac yn fuan wedyn ym mis Ebrill fe ddaw telor yr helyg - ac, yn wir, mae ei gri gwynfanus ai ganu byrlymus i'w clywed yn gyffredin yn ein coetiroedd mwy agored. Mae cân feddal y fwyalchen yn gyfarwydd i ni i gyd, ac felly gân gerddorol, ailadroddus ac afradlon ei pherthynas, fronfraith, sy'n clwydo'n falch ar ganghennau uchaf y coed i ganu'n gynnar yn y bore a phan mae hi'n nosi.

Fodd bynnag, fyddai'r gwanwyn ddim yn gyflawn heb gân y gog neu gampau'r wennol wrth iddi sglefrio'n feiddgar a adain y gwynt ar fore cynnes o wanwyn. Mae'r gog a'r wennol yn rhan o'n diwylliant a'n llên gwerin erbyn hyn, ac mae pawb yn disgwyl yn eiddgar amdanyn nhw bob Ebrill, fel petai i gadarnhau bod y gwanwyn wedi dod o'r diwedd.

Yn y byd technolegol sydd ohoni, mae hi'n ymddangos fel pe baem yn colli cysylltiad a chefn gwlad a'i arferion - llawer o'r arferion yma'n seiliedig ar wylio byd natur. Un o'r arferion pwysicaf oedd dathlu ailddeffroad adeg y gwanwyn felly efallai y dylem ni ddilyn arfer y Rhufeiniaid yn ystod Gwyl Fai, gan ddymuno'r gorau i'r rhai o'n cwmpas, gan obeithio y byddan nhw'n cael troi dalen lân - a honno'n un lwyddiannus.

Jonathan Neale


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý