Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi ymddiheuro am anghofio cynnwys gwybodaeth am seremoni newydd yng nghyfrol Rhaglen y Dydd Eisteddfod yr Wyddgrug.
Nid oes s么n yn y Rhaglen am seremoni croesawu y Cymry o dramor ar ei ffurf newydd fel rhan o seremoni y Fedal Ryddiaith, ddydd Mercher yr Eisteddfod.
Wedi ymddiheuro
Mae trefnydd yr Eisteddfod yn y gogledd, Hywel Wyn Edwards, wedi derbyn y cyfrifoldeb am y diffyg ac wedi ymddiheuro'n gyhoeddus.
A dywed Undeb Cymru a'r Byd, corff gwirfoddol sy'n gysylltiedig 芒'r seremoni, ei fod ef wedi cael addewid gan yr Eisteddfod y bydd popeth yn cael ei wneud i unioni'r cam a thynnu sylw at y seremoni newydd.
Y llynedd, am y tro cyntaf er 1948, nid oedd seremoni o gwbl yn dilyn penderfyniad gan Gyngor yr Eisteddfod i'w dileu.
Ond cafodd y penderfyniad hwnnw ei ddadwneud gan Lys yr Eisteddfod mewn cyfarfod ar faes Eisteddfod Abertawe gyda gorchymyn i Fwrdd Rheoli y Brifwyl chwilio am ffordd newydd o groesawu'r Cymry tramor a chyfeillion Cymry dros y m么r.
Gyda'r Archdderwydd
Yn gynharach eleni cytunodd yr Eisteddfod yn dilyn trafodaethau gydag Undeb Cymru a'r Byd i gynnal y croeso ar gychwyn seremoni'r Fedal Ryddiaith ar y dydd Mercher gydag arweinydd y Cyfeillion o Dramor yn cael ei galw i'r llwyfan gan yr Archdderwydd.
Byddai seddau arbennig i rai o dramor ym mlaen y Pafiliwn ac yn llygaid y camer芒u.
Dyma'r seremoni yr anghofiwyd s么n amdani yn Rhaglen y Dydd.
Ac er bod cyfeiriad at arweinydd y Cymry tramor, Dr Melya Hughes Crameri o'r Swisdir, ni ddywedir y bydd yn bresennol yng Nghymanfa Ganu yr Eisteddfod.
"Yn amlwg yr ydym yn siomedig iawn nad oes s么n am y seremoni yn Rhaglen y Dydd a ninnau wedi gwneud cymaint o ymdrech i adfer y seremoni hon a gynhaliwyd gyntaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr, 1948," meddai Deiniol Wyn Price o Birmingham, cadeirydd Undeb Cymru a'r Byd
"Ond yr ydw i wedi cael sicrwydd gan brif weithredwr yr Eisteddfod y gwneir pob ymdrech i dynnu sylw at y digwyddiad a gwneud iawn am y diffyg yn Rhaglen y Dydd," ychwanegodd.
"Ac wrth gwrs yr ydym ninnau wedi galw yn barod ar ein haelodau i wneud pob ymdrech i fod yn bresennol a chefnogi'r seremoni a'r Eisteddfod," meddai.
"Mae'r Eisteddfod yn golygu llawer i'n cyfeillion o dramor ac yng ngwledydd eraill Prydain," meddai.
'Argoeli'n dda'
Mae'r Eisteddfod hithau wedi cyhoeddi datganiad yn tynnu sylw at y seremoni gan ddweud ei bod yn argoeli bod yn un llwyddiannus gydag ymholiadau amdani o bob rhan o'r byd.
"Am y tro cyntaf fe fydd seremoni Cymru a'r Byd yn digwydd dan adain Gorsedd y Beirdd gyda'r Archdderwydd ei hun yn croesawu'r Cymry alltud i'r 糯yl ac yn croesawu Arweinydd Cymru a'r Byd, Dr Melya Hughes Crameri," meddai'r datganiad.
"Mae'r Eisteddfod wedi derbyn nifer helaeth o ymholiadau am y seremoni newydd gydag ystod o Gymry o bob rhan o'r byd yn dangos diddordeb i gymryd rhan yn y digwyddiad," ychwanegodd.
Ac meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, "Rwy'n sicr y bydd y seremoni ar ei newydd wedd yn denu pobl o bob oed ac yn sicrhau y bydd Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau yn Eisteddfod i'w chofio i bawb o bedwar ban byd."