Disgrifiwyd seremoni newydd i groesawu'r Cymry o dramor fel un oedd yn "gwneud y gorau o'r gwaethaf" ac yn "amddifad" o bob dychymyg.
Dywedodd Hywel Teifi Edwards - a oedd ymhlith y rhai a fu'n bennaf gyfrifol am adfer y seremoni i bafiliwn y Brifwyl ar 么l cael ei hepgor yn Abertawe y llynedd - nad oedd yn hapus o gwbl gyda'r modd y cafodd ei hadfer.
Cynnig ganddo ef gerbron Llys yr Eisteddfod yn Abertawe barodd i'r seremoni - oedd yn cael ei hadnabod am flynyddoedd fel seremoni'r Cymry ar Wasgar - gael ei hadfer o gwbl.
Anodd credu
Ond meddai heddiw:
"Chanwyd yr un gair o groeso iddyn nhw yn y lle cyntaf - mae jyst yn anodd credu hynna.
"Dydw i ddim yn ystyried honna yn seremoni yn yr ystyr yr ydw i'n ystyried y gair a beth oedd yn fy mhoeni i yw bod yr Eisteddfod o bawb mor ddiddychymyg ei hymateb i'r posibiliadau - hynny sy'n fy mhoeni i."
Dywedodd bod rhaid i'r Eisteddfod benderfynu a ydyn nhw eisiau seremoni neu beidio.
"Y teimlad sydd gen i, ac rwy'n gwybod bod rhai ohonyn nhw [yr ymwelwyr tramor] yn teimlo'r un peth, nad oedd yna fawr bwynt i'r hyn ddigwyddodd," meddai.
Canmol Archdderwydd
"Fel roeddwn i'n pwysleisio, nid beirniadaeth ar yr Archdderwydd yw hynna, achos roedd ei groeso ef yn un graenus a thwymgalon iawn, ond roeddwn i'n meddwl ei fod yn cael ei roi mewn sefyllfa cwbl amhosibl.
"Yna, pan gewch chi arweinydd y parti o Gymry yn dod i'r llwyfan jyst i fwy neu lai ddweud, 'Thenciw' wel, dydw i ddim yn gweld y pwynt.
"A dweud y gwir roeddwn i'n tynnu'n hat i'r ferch yna am ddod i'r llwyfan .
"Mae yna bosibiliadau yna, yn enwedig gyda'r dechnoleg newydd yma.
"Pam na ellid cael rhai portreadau ffilm. Rhyw bum munud o beth i'r llywydd a mynd i wahanol wledydd, y cynrychiolwyr yn son sut mae'r Cymry mewn gwahanol rannau o'r byd yn ceisio ymgynnal yn nhermau eu Cymreictod.
'Gorau o'r gwaethaf'
"Mae yna bosibiliadau ac fe allai'r peth fod yn ddiddorol.
"Roedd hi jyst yn drist ddoe. Rhyw fath o wneud y gorau o'r gwaethaf - os na allwn ni gael dychymyg yn yr Eisteddfod lle yn y byd gallwn ni?"
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Cymru a'r Byd fod yr hyn a ddigwyddodd ddoe fel gwelliant sylweddol ar yr hyn a ddigwyddodd.
Ond yn ei gyfarfod blynyddol ar Faes yr Eisteddfod dywedodd ei fod yn awyddus i drafod rhagor o welliannau gyda'r Eisteddfod.
"Mae gwahaniaeth barn, gyda rhai wedi hoffi'r hyn ddigwydd ond eraill yn siomedig iawn.
"Fe fyddwn yn trafod hyn yn fanwl yn ein pwyllgorau," meddai
Croeso teilwng
Mewn ymateb i'r Seremoni, dywedodd Hywel Wyn Edwards , trefnydd yr Eisteddfod, eu bod wedi trafod gyda swyddogion Undeb Cymru a'r Byd a'u bod wedi dod i gytundeb.
"Doedd neb yn honni mai seremoni oedd hyn.
"Yr hyn nodwyd yng nghyfarfod Llys yr Eisteddfod y llynedd oedd ein bod yn rhoi croeso teilwng.
"Rhaid dweud bod hyn yn urddasol."