Bydd enillydd y Rhuban Glas yn cael gwahoddiad i'r Wladfa ym Mhatagonia fel rhan o gynllun i sicrhau cydweithrediad agosach rhwng Cymry Patagonia, Eisteddfod y Wladfa a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae hyn yn deillio o gytundeb ehangach a arwyddwyd rhwng y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, a Llywodraethwr Rhanbarth Chubut yn Ariannin, Mario Das Neves, yn gynharach eleni.
"Amcan y cytundeb yw datblygu cysylltiadau diwylliannol, addysgol, twristiaeth a busnes rhwng Cymru a'r Wladfa ac yn unol 芒'r cytundeb mae arweinwyr cymunedol a gwleidyddion Patagonia ar hyn o bryd yn astudio nifer o fentrau i ddatblygu'r cysylltiadau 芒 Chymru," meddai datganiad ar ran yr Eisteddfod heddiw.
Estyn gwahoddiad
Bydd nawdd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a Llywodraeth Chubut a Chyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn galluogi i enillydd Unawd y Rhuban Glas eleni fynd i Batagonia yn ystod Ebrill a Mai 2008.
Yna, bydd C么r yr 糯yl eleni yn derbyn gwahoddiad ar gyfer 2009.
"Dyma'r tro cyntaf i enillydd unrhyw un o gystadlaethau'r Eisteddfod dderbyn gwobr mor urddasol, ac mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol yr Eisteddfod fel brand rhyngwladol a Phatagonia hefyd fel cyrchfan ryngwladol bwysig," meddai'r datganiad.
Cynrychiolwyd Llywodraeth Chubut yn yr Eisteddfod yn Yr Wyddgrug gan Jeremy Wood o Esquel.
"Rwy'n llongyfarch Llywodraeth Chubut ar y fenter o greu cyfle arall i'r iaith Gymraeg a'r diwylliant," meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dywedodd Maer Trefelin, Dr Carlos Mantegna: eu bod yn edrych ymlaen at groesawu cerddorion mor bwysig.
Ac meddai Raul Fernandez, Gweinidog Tramor Masnach, Twristiaeth a Buddsoddi Chubut:
"Pan arwyddon ni'r Cytundeb yng Nghaerdydd ym mis Mawrth eleni, roeddem yn benderfynol o ffocysu ar bob agwedd o'n cysylltiadau 芒 Chymru, a hon yw'r fenter gyntaf o gyfres o fentrau fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf."