Bydd olwyn dd诺r fawr yn cael lle o anrhydedd ar faes yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos hon.
Mae Megan Broadmeadow, sydd yn artist preswyl yn yr Eisteddfod, wedi peintio'r olwyn a greodd mewn ffordd fydd yn ein hatgoffa o g锚m gwis ar y teledu.
Wedi ei bwriadu i adlewyrchu treftadaeth ddiwydiannol Sir y Fflint, bydd testun neu bwnc wedi ei beintio ym mhob rhan o'r olwyn bren er mwyn cynrychioli'r dewisiadau sydd ar gael i bobl yr ardal.
Yna, bydd perfformiad byw o sioe deledu ffug yn defnyddio'r olwyn am dri o'r gloch heddiw.
Mewn partneriaeth 芒 Chelf Cyhoeddus Cymru ac Amgueddfa Cymru mae artist preswyl yr Eisteddfod yn gweithio'n agos gyda'r gymuned leol - cyn, yn ystod ac yn dilyn yr 糯yl a bu Megan Broadmeadow yn cynhyrchu ffilmiau, yn peintio ac yn cynnal gweithdai yn ardal Y Fflint yn ogystal ag ymchwilio i hanes y gymuned er mwyn creu'r negeseuon ar yr olwyn.
"Cefais fy ysbrydoliaeth i wneud y gwaith am Dreftadaeth Diwydiannol Fflint ar 么l lleoli fy hun ym Mharc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas. Rwyf wedi mwynhau'r cyfle i greu gwaith newydd ac yn edrych ymlaen at ei gyflwyno ar faes yr Eisteddfod," meddai.