91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

91热爆 VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


91热爆 91热爆page
Hafan Cymru

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Straeon

Creu madfall steddfodol

31 Gorffennaf 2007

Yr arddangosfa madfall

Anifail sydd mewn peryg yn cael sylw ar y maes

Bydd model o'r mwyaf annisgwyl o greaduriaid i'w weld ar faes yr Eisteddfod eleni - madfall.

Gwnaed y Madfall Cribog gan blant Ysgol Ardwyn ger Yr Wyddgrug er mwyn tynnu sylw at y ffaith fod cynefin yr anifail mewn peryg

Mae gwastraff yn cael ei gladdu ger pyllau hen chwareli, lle mae'r anifeiliaid prin hyn yn byw ym mro yr Eisteddfod.

Bu'r plant yn gwneud y cerflun dan arweiniad yr artist Kevan Hopson gan ddefnyddio broc m么r a gwastraff plastig er mwyn creu argraff o amgylchedd naturiol y madfall.

Brwdfrydig

Meddai Kevan am y cerflun a fydd i'w weld ar faes yr Eisteddfod:

"Roedd y myfyrwyr yn frwdfrydig dros ben. Dechreuon ni'r prosiect trwy ymweld 芒 phyllau madfall Brookhill yng nghwmni Jacinta Challinor, o Fywyd Gwyllt Gogledd-ddwyrain Cymru, lle datgelodd hi gyfrinachau byd y fadfall i ni."

Wedyn cr毛wyd model o fadfall yn y dosbarth a oedd, meddai, "yn dal prydferthwch ac urddas y creadur hwn sy'n debyg i ddraig".

Pwysleisiodd Tim Jones, rheolwr rhanbarthol CCC, bwysigrwydd diogelu'r anifail.

"Gweithgaredd dyn yn y gorffennol sy'n rhannol gyfrifol am boblogaeth uchel y fadfall yn yr ardal hon ac rydym angen sicrhau nad yw datblygiadau cyfredol yn bygwth eu dyfodol yn y tymor hir," meddai.

"Maent wedi eu hamddiffyn dan gyfraith Ewropeaidd - ond rydym yn hapus iawn fod plant ysgol yn dod i ddeall mwy amdanynt. Mae yna angen i'w hyrwyddo a'u dathlu yn ogystal a'u hamddiffyn."

Mae'r cerflun yn rhan o weithgarwch cynllun artist preswyl dan nawdd Cyngor Cefn Gwlad Cymru, mewn partneriaeth 芒'r Eisteddfod Genedlaethol.



About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy