Mae enillydd ysgoloriaeth artist ifanc yr Eisteddfod Genedlaethol 2006 wedi gwerthu ei gasgliad trawiadol o ffotograffau i Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Gyda'i gasgliad o luniau 么l-ddiwydiannol dan yr enwGreen? My Valley Now mae Andrew Richards o Abertawe wedi canolbwyntio ar dirwedd Maesteg ac astudiaeth arbennig o waith ffotograffydd o'r enw Robert Frank yn yr un ardal yn y Pumdegau.
Defnyddiodd Andrew Richards rai o'r lluniau a dynnwyd gan Frank i er mwyn dangos y newid a fu dros y blynyddoedd.
Dilyn cwrs
O ganlyniad i ennill yr ysgoloriaeth gallodd Andrew astudio cwrs MA mewn ffotograffiaeth yng Ngholeg Prifysgol Casnewydd ac fe gyhoeddodd lyfr hefyd.
Dywedodd Rhiannon Michaelson-Yates o'r Amgueddfa Genedlaethol i'r
Llyfrgell brynu'r casgliad gan fod y lluniau yn gofnod mor bwysig o'r Gymru 么l-ddiwydiannol.
Bydd rhai o'r lluniau i'w gweld ar faes yr Eisteddfod yn y Ganolfan Celf Gweledol.
Meddai Robyn Tomos, Swyddog Celfyddydau'r Eisteddfod: "Mae'n bwysig dangos i'n hartistiaid ifainc bod llwyfan a chyfleon iddyn nhw yma yng Nghymru. Mae'r ffaith bod y Llyfrgell Genedlaethol wedi prynu gwaith Andrew Richards yn cydnabod pa mor arwyddocaol yn diwyllianol yw ei waith yng nghelfyddyd Cymru."