Rhestr o seremon茂au'r wythnos, enillwyr 2009, 2008 ac Eisteddfodau Meirion a'r Cyffiniau y gorffennol.
Dydd Llun
Seremoni Coroni'r Bardd
16.30
Pafiliwn
Tasg: Pryddest neu ddilyniant o gerddi heb fod dros 200 llinell: Yn y Gwaed.
- 2009: Ceri Wyn Jones o Aberteifi
- 2008: Hywel Griffiths enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
- 1997: Cen Williams gipiodd y Goron pan fu'r Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala y tro diwethaf, am ei bryddest 'Branwen'
- 1967: Eluned Phillips oedd enillydd y Goron am y bryddest 'Corlannau'
Gwyliwch glip o'r seremoni
Dydd Mawrth
Seremoni Medal Syr T. H. Parry - Williams er clod
12.30pm
Pafiliwn
- 2009: Haf Morris enillodd y fedal hon eleni
- Yn Eisteddfod Caerdydd 2008 dyfarnwyd y Fedal i Mair Penri Jones, Y Bala
Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen
17.00
Pafiliwn
Tasg: Nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn stor茂ol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.
- 2009: Fflur Dafydd enillodd yn Y Bala gyda'i nofel 'Y Llyfrgell'
- 2008: Ifan Morgan Jones oedd enillydd y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
- 1997: Gwyneth Carey enillodd y Fedal am y gyfrol 'Mwg'
Sefydlwyd y wobr hon yn 1978.
Dydd Mercher
Seremoni'r Prif Lenor Rhyddiaith a Chroesawu Cyfeillion o Wledydd Tramor
16.30
Pafiliwn
Tasg: Cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau: Gwead.
- 2009: Enillwyd y Fedal gan Si芒n Melangell Dafydd
- 2008: Mererid Hopwood o Gaerfyrddin enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Caerdydd. Mae Mererid bellach wedi ennill y Gadair, y Goron a'r Fedal Ryddiaith - y tro cyntaf i ferch ennill tair prif wobr lenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol
- 1997: Angharad Tomos enillodd y Fedal yn Y Bala yn 1997 am y gyfrol 'Wele'n Gwawrio'
- 1967: Doedd neb yn deilwng o'r Fedal yn yr Eisteddfod yn 1967
Gwyliwch glip o'r seremoni
Nos Fercher
Seremoni Tlws y Cerddor
19.15
Pafiliwn
Tasg: 6 o ganeuon, un ar gyfer pob un o'r lleisiau yn y cystadlaethau unawdau dros 25 oed gyda chyfeiliant piano.
- 2009: Doedd neb yn deilwng o'r tlws
- 2008: Eilir Owen Griffiths enillodd y Tlws yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
- 1997: Guto Pryderi Puw oedd yr enillydd yn Y Bala.
Yn 1990 sefydlwyd y wobr hon.
Dydd Iau
Cyflwyno enillydd Dysgwr y Flwyddyn
11.35
Pafiliwn
- 2009: Meggan Prys, yn wreiddiol o Ohio yn America enillodd y teitl
- 2008: Madison Tazu oedd enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn
- 1997: Paul Elliot oedd Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Y Bala
Cyflwyno Enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg
11.40
Pafiliwn
Am gyfraniad helaeth i'r defnydd o'r Gymraeg ym myd Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- 2009: Dafydd Dafis o Randirmwyn oedd yr enilllydd
- 2008: Iolo ap Gwynn oedd enillydd y Fedal yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
Seremoni Cyflwyno enillydd y Fedal Ddrama
13.10
Pafiliwn
- Am yr ail dro'n olynol enillodd Dyfed Edwards y Fedal Ddrama yn 2009 ar 么l ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2008
- 1967: Bob Roberts enillodd Tlws y Ddrama
Dydd Gwener
Seremoni Cadeirio'r Bardd
16.30
Pafiliwn
Tasg: Awdl / Cerdd mewn cynghanedd gyflawn heb fod dros 200 llinell. Thema 2009: Cyffro.
- 2009: Doedd neb yn deilwng o'r Gadair
- 2008: Hilma Lloyd Edwards o Bontnewydd, Caernarfon oedd enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
- 1997: Ceri Wyn Jones enillodd y Gadair yn Eisteddfod y Bala yn 1997 am yr awdl 'Gwaddol'
- 1967: Emrys Roberts gipiodd y Gadair yn Eisteddfod 1967 am yr awdl 'Y Gwyddonydd'
Gwyliwch glip o seremoni'r Gadair wag
Gwybodaeth ychwanegol
Tua awr o hyd yw pob un o'r prif seremon茂au. Mae angen i bawb fod yn eu seddau erbyn 16.15. Ni agorir y drysau wedyn tan bod y seremoni wedi gorffen am tua 17.30 o'r gloch.
Darllenwch am holl seremon茂au Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008 ac Eisteddfod Y Fflint 2007 trwy glicio ar y dolenni ar y dde.