Sylwadau Elin Angharad
Agorodd Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau nos Wener gyda dathliad o'n traddodiadau ond ag elfen o'r cyfoes hefyd.
Brethyn Cartref oedd enw'r cyngerdd agoriadol ac roedd teimlad cartrefol yng nghwmni'r perfformwyr i gyd.
Roedd hi hefyd yn noson i ddathlu, Pen-blwydd Cymdeithas Gerdd Dant Cymru yn 75 oed a Chymdeithas Ddawns Werin Cymru yn 50 oed.
Y Gymdeithas Gerdd Dant oedd yn noddi'r Cyngerdd ar 么l cael ei sefydlu yn Y Bala, Tachwedd 10 1934.
Fe gychwynnodd y noson ar 么l y seremoni agoriadol gyda'r Glerorfa - criw o gerddorion, y rhan fwyaf yn amaturiaid, o bob rhan o Gymru, a ddaeth at ei gilydd yn 2006 i chwarae cerddoriaeth draddodiadol gyda rhyw ffurf fodern.
Roedd digon o fynd yn y gerddoriaeth gan y chwaraewyr ffliwt, ffidl, telyn a phibau ac roedd yr elfen o ganu cerdd dant gan ddau o'r cerddorion, Arfon Gwilym a Sion Gwilym, yn ychwanegu at ymdeimlad cartrefol a hamddenol y criw. Ac yn ychwanegu at y cyfan, dawnswyr clocsiau yn perfformio i gerddoriaeth y Glerorfa.
C么r Cerdd Dant
Yna, daeth 150 o ddynion ar y llwyfan yng nghwmni chwech o delynorion a'u harweinydd Dan Puw.
Aelodau o bum c么r meibion lleol wedi uno dan yr enw C么r Cerdd Dant Meibion Unedig.
Roedd eu perfformiad yn drawiadol iawn gyda thri darn yn cynnwys Daw Dydd y Bydd Mawr y Rhai Bychain.
Trueni na chawsom glywed mwy ganddynt a hwythau wedi dod at ei gilydd yn benodol ar gyfer y cyngerdd.
Byr iawn oedd amser y perfformwyr ar y llwyfan at ei gilydd ac er y byddwn wedi dymuno cael ychydig bach mwy gan rai roedd hyd y cyngerdd, llai na dwy awr i gyd yn braf iawn.
Wyneb cyfarwydd
Dwy ddawns a gafwyd gan Tudur Phillips, un o wynebau cyfarwydd Planed Plant - cyfraniad oedd yn rhan o ddathliadau'r Gymdeithas Ddawns Werin.
Roedd y ddawns gyntaf yn dangos y stepiau traddodiadau ond yr ail yn fwy cyfoes ac yn dangos, drwy gyfrwng clown, gampau'r dawnsiwr.
Roedd perfformiad Mark Evans yn fwy cyfoes gyda hanner dwsin o ganeuon o'r sioeau cerdd neu ganeuon poblogaidd. Dywedodd iddo fod yn fuddugol ar y dawnsio disgo unigol wyth mlynedd yn 么l - ar stepen ei ddrws yn Sir Ddinbych. Ac fe gafwyd tipyn o symudiadau ganddo eto nos Wener!
"Mae'n fraint cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y cyngerdd agoriadol yn hytrach na chystadlu," meddai'r bachgen o Lanrhaeadr a ddaeth i amlygrwydd yng nghyfres y 91热爆 Your Country Needs You.
Ymhlith y caneuon a berfformiodd yr oedd Cadw dy Gariad Pur, Yn ei Llygaid hi, Tu hwnt i'r s锚r a Chymru Fach.
Dathlu'r trigain
I gloi'r noson cafwyd perfformiad gan G么r Godre'r Aran, sydd eto yn 60 oed eleni.
Dan arweiniad Eirian Owen cafwyd perfformiad arbennig iawn gan y c么r a sefydlwyd fel parti cerdd dant i ddechrau.
Noson oedd yn gychwyn cartrefol, lleol, amrywiol a da iawn i wythnos lwyddiannus - gobeithio - ym Meirion.
Straeon eraill
Newyddion
Blogiau 91热爆 Cymru
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...
Nia Lloyd Jones, 13 Awst 2012
Cylchgrawn
Y celfyddydau
Blog, adolygiadau a straeon o fyd y theatr, llyfrau a ffilm gydol y flwyddyn.