|
|
|
Sian Thomas - darlledu yn ei bro Yn ystod mis Mawrth 2004 bu Sian Thomas yn teithio bro ei mebyd yn y de orllewin yn cyflwyno ei rhaglen ddyddiol ar 91热爆 Radio Cymru ffel rhan o gynllun Lleisiau. Yma mae'n sgrifennu am y profiad. |
|
|
|
Fues i erioed yn un oedd yn gallu pacio'n dda pan ddaeth hi i baratoi at daith neu wyliau!
Dwi'n gweithio ar yr egwyddor fod pob siop yn mynd i fod wedi cau, felly dwi'n pacio pob dim - jest rhag ofn!
Pan glywais i, felly, mod i'n darlledu'n fyw o'r gorllewin am dair wythnos, 'roedd rhestr yr 'Essentials' yn hirfaith, fel y gallwch ddychmygu.
"Allwch chi ddim paratoi gormod," medde'r llais bach yn fy mhen ac am unwaith, ro ni'n iawn - roedd angen y sgidje mawr a'r wellingtons, y cryse T a'r thermals, y cotie glaw , siwmperi, menig, hetie, ymbarel a'r sbectol haul.
Mewn tair wythnos, mi daflodd y tywydd ei ore a'i waetha ato ni - o heulwen braf y gwanwyn ar Barc y Strade i law y basa Noa wedi teimlo'n gartrefol ynddo yng Nghastell-nedd a Llandeilo.
Eira mawr yn Llanelli a Chwm Gwendraeth, a gwyntoedd cryfion fu bron a chwythu criw Radio Cymru i ben y Mynydd Du, yn Ystradgynlais.
Do, mi brofodd y garafan fach oedd yn stiwdio symudol, bob dim mewn tair wythnos.
Ond er gwaetha'r tywydd amrywiol, bu croeso trigolion y De Orllewin mor dwymgalon ag erioed, ac o'dd dim prinder o goffi cynnes, sglodion, pasteiod a brechdanau i'n cadw ni fynd.
Fel croten o Gwmtawe roedd yn hyfryd cyfarfod eto a rhai o hen ffrindiau'n y cwm a chael rhannu clonc a chlec bob pnawn.
Bu'n gyfle hefyd i neud ffrindiau newydd a chlywed hanesion diri o gymoedd hyfryd y de orllewin.
Falle mod i'n "biased" ond dwi'n siwr bo llwch y glo yn ychwanegu ei sbarc ei hun i sgwrsio'r ardal hon.
Ceafis gwmni difyr sipswn eraill a ymunodd a fi yn y "garafan mewn cwr o fynydd" - nifer yn leisiau cyfarwydd i'r rhaglen; Ena , Alyson, Alvis a Derfel,- diolch i bob un ohonyn nhw am eu cyfraniadau gwerthfawr a diolch i Gymru'r De Orllewin am ein croesawi a breichiau agored.
Mae'r teithio bellach ar ben, i mi, o leia, ond mae'r rhaglen yn parhau bob pnawn rhwng dau a thri yn genedlaethol, a rhwng dau a phedwar yn y de orllewin, y tro hwn o stiwdio barhaol y 91热爆, lle nad yw'r coffi'n blasu cweit cystal!
A be sy ar 么l i mi? Wel, pentwr o olch, a sortio bwt y car a rhyfeddu na ches i gyfle i ddefnyddio'r "deckchair" wnes i bacio - jest rhag ofn.
Mi gadwith honno tan y tro nesa sbo!
Mae Si芒n Thomas ar 91热爆 Radio Cymru bob dydd: yn genedlaethol o 2 - 3 y prynhawn ac yn darlledu i'r de orllewin rhwng 3 a 4 y prynhawn.
|
|
|
|
|
|