|
|
|
Cyflwyno Lleisiau i'r de orllewin Mae Lleisiau wedi cyrraedd y De Orllewin gydag ail gynllun Lleisiau 91热爆 Radio Cymru wedi cychwyn ar Fawrth 1, 2004.
|
|
|
|
Tonfedd Lleisiau ar 91热爆 Radio Cymru yw: 104.2 104.6 FM Ac ar wefan Lleisiau ar y we.
Mae Lleisiau wedi cyrraedd y De Orllewin.
Rhoddwyd cychwyn i ail gynllun Lleisiau 91热爆 Radio Cymru gyda digwyddiad arbennig yn cynnwys cannoedd o blant ysgol ar Barc y Strade ddydd Gwyl Dewi 2004.
Mae'r trefi a'r pentrefi y bydd y Lleisiau yn ymweld 芒 hwy o fewn cylch sy'n ymestyn o Gaerfyrddin i Landeilo, i Borth Talbot ac Abertawe a Llanelli.
A phrif lais y gwasanaeth newydd ydi Ray Gravell a gafodd ei dacl gyntaf i mewn yn fwy na llwyddiannus fore Dydd Gwyl Dewi ac ennill cefnogaeth eang i'r fenter yn yr ardal.
Ymhlith y rhai oedd yn bresennol yr oedd Phil Bennett y cyn faswr rhyngwladol a fu'n chwarae ochr yn ochr a Ray, nifer o chwaraewyr prsennol y Scarlets a'u hyfforddwr, Gareth Jenkins, y prifardd Alan Llwyd, actorion Pobol y Cwm a phennaeth 91热爆 Cymru, Menna Richards.
Am rai misoedd bydd gan yr ardal hon ei rhaglenni radio ei hun ar 91热爆 Radio Cymru. Gyda Ray Gravell yn darlledu i'r ardal rhwng 8-30 a 10-30 o fore Llun tan fore Iau.
Yna, foreau Gwener, bydd Marc Griffiths yn darlledu rhwng 8.30 a 10.30, eto yn arbennig i'r ardal, gan gyflwyno rhaglen fywiog o sgwrs a chlonc.
Mae gan Marc, o Lanybydder, hefyd ei raglen ei hun ar ddydd Sadwrn, am 7.15pm, sydd i'w chlywed drwy Gymru gyfan.
Yn y prynhawn bydd rhaglen ddyddiol Sian Thomas yn cael ei darlledu rhwng 2.00 a 4.00 bob dydd.
Bydd yr ardal yn cael sylw ar raglenni eraill 91热爆 Radio Cymru hefyd, fel C2.
A bydd Ray Gravell yn teithio i bob cornel o'r gorllewin yn cyfarfod pobl ac yn dod 芒'r difyr a'r diweddaraf yn fyw ar ei raglen.
Cychwyn ar y Strade
Dyma restr o'r ymweliadau: Mawrth 1: Parc y Strade o saith y bore tan 5.30 y nos gyda Ch么r Meibion Llanelli a'r Brodyr Gregory ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan..
Mawrth 2: Eglwys Dewi, Stryd Woodfield, Treforys.
Mawrth 3: Castell-nedd. Recordio Beti a'i Phobl yng Nghlwb Rygbi Mynydd y Garreg gyda'r nos..
Mawrth 4: Canolfan Gelfyddydau Pontardawe. Recordio Cant y Cant yng Nghlwb Rygbi Cwmgors..
Mawrth 5 a 6: Canolfan Siopa Rhydaman. Gig yn Nhy Tawe, Abertawe
Mawrth 8: Cydweli.
Mawrth 9 a 10: Caerfyrddin. Recordio Talwrn y Beirdd yng Ngorseinon. Gweithdy a chwis pop yn Ysgol Maes yr Yrfa. Recordio Manyl;u ym Mhontyberem nos Fawrth.
Mawrth 11: Canolfan Elli a'r Farchnad Llanelli.
Mawrth 12: Menter Cwm Gwendraeth, Pontyberem.
Mawrth 13: Canolfan Elli a'r Farchnad, Llanelli.
Mawrth 15: Marchnad anifeiliaid Llandeilo.
Mawrth 16: Gwaun Cae Gurwen. Beti George yn holi Gareth Edwards. Clwb Rygbi Cwmgors. Gweithdy a chwis pop yn Ysgol Pantycelyn.
Mawrth 17: Canolfan Grefftau Llanymddyfri.
Mawrth 18: Ty Tawe, Abertawe.
Mawrth 19: Co-op Ystradgynlais. Cyngerdd gyda Huw Chiswell a Ch么r Orpheus Treforys yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe. C么r Meibion Llanelli a Lleisiau Blaenau.
Mawrth 25 - Ebrill 2: Trimsaran.
Ebrill 5 Ebrill 16: Gwaun Cae Gurwen
Mae cynlluniau i dreulio pythefnos ar y tro hefyd yng Nghwm Aman, Cwm Tawe a Chwm Nedd.
Beth yw Lleisiau? Cynllun arbennig sydd ar waith ar hyd a lled Prydain gan y 91热爆 dan yr enw Voices ydi Lleisiau. Bu Lleisiau Cymraeg cyntaf y 91热爆 ym Mlaenau Ffestiniog y llynedd yn llwyddiant ysgubol sy'n dal i weithredu gyda phobl a mudiadau lleol yn cael llais ar yr awyr ac ar y we am y tro cyntaf.
Mae 91热爆 Cymru yn benderfynol o weld yr un llwyddiant yn y De Orllewin.
Eich dewis chi Rhan allweddol o lwyddiant Lleisiau yw mai y bobl eu hunain sy'n penderfynu beth maen nhw eisiau'i glywed ar y radio a'i weld ar y We.
Mae'n gyfle heb ei ail i bobl gyfleu bwrlwm bywyd eu hardal, lleisio barn a s么n am eu profiadau a'u gobeithion.
Mae'n gyfle heb ei ail i bobl gyfleu bwrlwm bywyd eu hardal, lleisio barn a s么n am eu profiadau a'u gobeithion.
Mewn cyfarfod yn Rhydaman i roi cychwyn i Lleisiau'r De Orllewin dywedodd Golygydd 91热爆 Radio Cymru, Aled Glynne Davies: "Nid mater o'r 91热爆 yn dod i mewn i'ch ardal a dweud, 'Dyma'r ydym ni'n mynd i'w wneud,' ydi Lleisiau ond 91热爆 Radio Cymru yn rhoi cyfle i chi gael yr hyn ydych chi ei eisiau ac fe brofodd hynny yn llwyddiannus iawn gyda Lleisiau Blaenau. "Lleisiau fydd y Radio Cymru lleol ar y Radio Cymru cenedlaethol," meddai.
Ymhlith y rhai fydd yn llywio Lleisiau yn yr mae Keith Davies o Rydaman sy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed lleisiau ac acenion pobl ei ardal ar yr awyr.
"Bydd y cynllun hwn yn berchen i gymaint o bob ag fydd ishe'i berchen e," meddai.
A dywedodd Ray Gravell mai ei obaith ef yw y bydd ei raglen newydd arbennig ef yn dod 芒 phobl y Gorllewin at ei gilydd gan wneud i bawb deimlo mai eu radio nhw yw hi.
"Mae e'n brosiect mentrus. Fe fyddwn ni'n gwrando ar lais y bobol, yn mynd at y bobol eu hunain," meddai.
Dychwelwch i'r wefan hon am ragor o wybodaeth.Dychwelwch yn rheolaidd i'r ddalen hon am fwy o newyddion i weld beth sydd gan Ray i'w ddweud i weld 'Holiadur Sian Thomas'
|
|
|
|
|
|