|
|
|
Cipolwg ar Gymru - straeon digidol Bydd cyfle i drigolion Cwm Gwendraeth a'r cylch ddweud eu hanesion a'u straeon eu hunain ar y We diolch i gynllun cyffrous straeon digidol gan y 91Èȱ¬. |
|
|
|
Mae gwefan Cipolwg ar Gymru yn cynnwys casgliad o brofiadau amrywiol pobl a bydd gweithdy yng Nghwm Gwendraeth fis Ebill i'ch helpu chi rannu eich profiadau.
"Mae gan bawb stori i'w hadrodd ac mae straeon digidol yn galluogi pobl i ddweud eu straeon drwy ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf," meddai Carwyn Evans, un o'r rhai sy'n gofalu am y cynllun.
"Yn ystod y gweithdy, pum niwrnod bydd pob cyfrannwr yn creu ffilm fer ac yn adrodd ei stori yn ei steil unigryw ei hun.
"Bydd y straeon yn ymddangos ar wefan
"Mae'r gweithdy yn rhad ac am ddim, ond mae yna gyfyngiad ar y nifer all gymryd rhan a bydd rhaid ymgeisio am le arno," meddai.
"Mae 91Èȱ¬ Cymru yn chwilio am geisiadau gan bobl o unrhyw oed dros 18 ac o bob cefndir.
Mae straeon digidol yn straeon personol a all fod yn seiliedig ar unrhyw beth - cariad, gwaith, dyheadau, ofnau, y gorffennol a hyd yn oed y dyfodol. Yr hyn sy'n bwysig yw eich safbwynt chi," ychwanegodd.
Bydd Noson Wybodaeth yn Neuadd Pontyberem, Mawrth 24, rhwng 7.00 9.00pm gyda chyfle i bobl weld rhai o'r straeon rhagorol sydd eisoes wedi eu creu yn barod ar hyd a lled y wlad hyd a chael gwybod mwy am yr hyn fydd yn digwydd yn y gweithdy.
Mae'r Noson Wybodaeth yn agored i bawb, a bydd ffurflenni cais ar gael.
Dyma ddyddiadau'r gweithdai: l:Neuadd Pontyberem - Y gwaith paratoadol Nos Lun Ebrill 19 - 7:00-9:00 pm Ymgynnull. Dydd Gwener Ebrill 23 - Drwy'r dydd - Cylch Stori Dydd Sadwrn Ebrill 24 - 1 awr - Dal Delweddau.
Neuadd Poniets - Y gweithdy cynhyrchu Dydd Iau Ebrill 29 - Drwy'r dydd - Gweithdy Cynhyrchu Dydd Gwener Ebrill 30 - Drwy'r dydd - Gweithdy Cynhyrchu. Dydd Sadwrn Mai 1af - Drwy'r dydd - Gweithdy Cynhyrchu.
Am fanylion pellach cysylltwch â Carwyn Evans ar 02920 322576 neu drwy e-bost ar: carwyn.evans@bbc.co.uk
|
|
|
|
|
|