Yn ystod y flwyddyn hon gobeithia 70 o ddisgyblion ymweld â Killington am wythnos o sgio ac eirafyrddio. Mae'r criw yn gadael ar 17 o Chwefror o faes awyr Heathrow. Dyma'r daith gyntaf i Ogledd America ers dros ddegawd. Ar ôl y daith hir mi fydd y criw yn cyrraedd maes awyr JFK yn Efrog Newydd ac yna gwneud eu ffordd i Killington. Yno mi fydd pump diwrnod prysur o sgio ac eirafyrddio. Yna yn ôl i Efrog newydd am ddiwrnod o siopa cyn hedfan nôl ar nos wener y 24 o Chwefror wedi blinio'n lân! Dymunuwn bob hwyl iddynt i gyd! Gan: Mari Thomas
|