91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tafod Torfaen

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Tafod Torfaen
Band Pinacl Cymreictod mewn m么r o Seisnigrwydd
Braint i ni bobl ifanc y De Ddwyrain oedd cael ein denu gan wythnos gyfan o weithgareddau Cymraeg ddechrau Awst 2004. Pinacl Cymreictod mewn m么r o Seisnigrwydd.
Gigo di-ddiwedd, dawnsio di-baid a'r cyfan i gerddoriaeth Gymraeg yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004. Cerddoriaeth oedd yn estron i lawer, a nifer o fy nghyfoedion yn cael agoriad llygaid neu glustiau hyd yn oed i fodolaeth y S卯n Roc Gymraeg.

Kentucky AFCAr 么l yr wythnos honno daeth pobl ifanc i ddeall fod Bryn F么n yn legend a bod Frizbee yn fand yn hytrach na disg i daflu drwy'r awyr. Bod posib gweld, clywed a theimlo'r anhygoel Anweledig a gwerthfawrogi dawn Meinir Gwilym i gyfansoddi geiriau a cherddoriaeth. Rhyfeddu at boblogrywdd Kentucky AFC, Texas Radio Band ac Elin Fflur. Sylweddoli mai nid dim ond Dafydd Iwan sydd "yma o hyd"!

Mae'r profiad erbyn hyn yn bell yn y cof a llawer o bobl ifanc y de ddwyrain yn cael eu cyflyru gan gerddoriaeth Saesneg unwaith eto. Sut all y s卯n roc Gymraeg dorri drwodd i dde ddwyrain Cymru a dylanwadu ar yr ieuenctid?

Yn fy marn i mae dwy ffordd amlwg i ennill brwdfrydedd ieuenctid Gwent:

  • Cael gigiau Cymraeg yn ein hardal ni!
    Beth amdani fandiau Cymru? Dyma her i chi, neu a ydy Casnewydd a'r cyffuniau tu hwnt i'r ffin?

  • Bobl ifanc, beth am wrando ar Radio Cymru sy'n cyflwyno amrywiaeth o gerddoriaeth Cymraeg yn gyson gyda chyflwynwyr bywiog a doniol.

    "Y flaenoriaeth i gerddoriaeth" GYMRAEG!!

    Beth am ddewis o'r fwydlen hon ar 92- 105 FM

    Dylan a Meinir
    O dydd Llun i ddydd Gwener, 3 tan 5 y prynhawn.

    Gwrandewch ar C2 bob nos rhwng 8 y nos a 1 y bore.
    Cliciwch yma i weld amserlen C2 gyda chyflwynwyr fel Dafydd Du, Huw Stephens, Lisa Gwilym a mwy! - Yr amserlen yn llawn

    MWYNHEWCH A HYBWCH GERDDORIAETH GYMRAEG!!

    Gan: Mari Thomas


  • Cyfrannwch

    Rob Beddllwynog
    Beth am drefnu trip i Wyl Gymraeg Beddllwynog (Bedlinog) yn ystod mis Mehefin 2008. Yn ogystal a Dafydd Iwan a Heather Jones ar y nos Wener (noson acwstig) bydd diwrnod llawn o fandiau Cymraeg (ni'n gobeithio cael saith neu wyth i chwarae drwy'r Ddydd Sadwrn). Am ragor o fanylion ewch i www.cymdeithasgymraegbeddllwynog.co.uk
    Mon Jan 14 20:00:16 2008

    Dean Jones o Bontypwl
    Hoffen hefyd gynnig fy marn ar y diffyg diddordeb mewn cerddoriaeth Gymraeg. Dw i heb wrando ar ddim ond yn y Gymraeg, ond mae'n lan i'r unigolyn i wneud yn siwr bod nhw eu hunan yn mynd allan i'w ddarganfod.
    Sun Jul 29 20:57:07 2007

    Sam Lloyd-Williams o Gas-gwent!!
    Wi'n Cytuno 芒 Erwyn! Erthygl wych Mari!! Dwi'n byw yng Nghasgwent a dwi eisau gweld mwy o Gerddoriaeth Gymraeg yn fy ardal lleol! Dal ati!!!
    Mon Feb 5 19:08:56 2007

    Bethan o Aber
    Da'r hogan!!!
    Wed Oct 11 16:39:26 2006

    James o Felinheli
    Mae e'n dda clywed bod pobol yn yr ardal yna yn dwlu dros cerddoriaeth cyfoes Cymraeg! Mae rhaid i ni gael mwy o bobol fel Mari yn yr ardaloedd Saesneg yma, i hubu'r gigiau roc Cymraeg 'ma, a felly hybu'r iaith gymraeg ei hun! x
    Sun Jun 25 19:23:44 2006

    Gwynllyw
    Fe wnaeth tua 20 o Wynllyw fynd i gig frizbee! GWYCH!!!
    Thu Jan 12 17:28:53 2006

    Rhys, Bargod
    Falch clywed bod pobl ifanc eisiau clywed bandiau Cymraeg yn yr ardal. Dwi'n cofio pan oeddwn innau'n ddisgybl ysgol (yn y gogledd ddwyrain) a wyddom ni ddim am y s卯n Gymraeg oedd yn bodoli ar y pryd gyda bandiau gwych fel Y Cyrff, Ffa Coffi Pawb a Datblygu.


    Wed Nov 23 12:14:07 2005

    ErwynJ (Yr Enwog!)
    Erthygl da iawn Mari! Gyda'r math yma o genadwri i'r sin roc Gymraeg gen ti, ddylse dim problem i ysbrydoli Cymry' r de ddwyrain!
    Thu Nov 3 20:16:26 2005


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r 91热爆 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



    Digwyddiadau
    Ffilmiau
    Lluniau


    About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy