"Rhaid mynd i weld Celf" meddai Mr Eurfryn Lewis, Pennaeth yr Adran Gelf yn Ysgol Gwynllyw. "Mae plant yn ymateb llawer mwy o weld celf go iawn, yn hytrach na gweld lluniau mewn llyfr." Dyna pam bydd criw o Flynyddoedd 11, 12 a 13 o'r Ysgol Gymraeg yn mynd i Rydychen, i Amgueddfa Pitt Rivers. Yno bydd arddangosfa o waith ethnig. Bwriad y daith fydd annog a hybu syniadau gyda'r artistiaid ieuanc. Yn 么l Mrs Gill Murray yr athrawes Gelf, "Mae celf ysgol yn fwy traddodiadol fel arfer, ac mae'r swreal yn boblogaidd iawn yng Ngwynllyw. Dw i'n gobeithio caiff y disgyblion ddigon o syniadau ar gyfer eu gwaith cwrs". Cyn ddisgybl llwyddiannus Wrth gwrs nid arholiadau yw popeth. Mae cyn ddisgybl o Wynllyw eisoes yn creu enw i'w hun ym myd Celf, sef Jamie Routley. Mae'r ffaith iddo gael arddangosfa yng Nghasnewydd yn ddiweddar a threulio amser yn astudio Celf yn Firenze yn yr Eidal yn dipyn o bluen yn het yr adran. "Mae llwyddiant cyn-ddisgybl fel hyn yn sbarduno eraill o'r disgyblion presennol," meddai Mr Lewis. Mae g诺r Mrs Murray hefyd yn digwydd bod yn artist sef Micheal Murray, ac mae'r ffaith ei fod yn llwyddiannus a gweithgar yn ychwanegu at gyffro canfas disgyblion Gwynllyw. Gan: Sam a Mari
|