Yn dilyn cwynion am safon y bwyd a'i bris uchel gan y disgyblion (drwy Gyngor yr Ysgol) ni adnewyddwyd cytundeb y cwmni dros y ffin. Bellach mae dwylo menywod cegin Trefddyn yn rhydd. Mae'r canlyniadau i gyd yn rhai positif meddai lleisiau'r gegin. Gyda'r bwyd yn llawer mwy blasus, a'r platiau yn llawnach, mae'r disgyblion wedi dechrau pleidleisio a'u traed. Mae'r ffreutur yn llawer prysurach, ac yn eironig, yn 么l y brif gogyddes "Mae bywyd yn haws". Meddai Mr Thomas un o athrawon yr ysgol: "Roedd yn warthus meddwl bod plentyn yn treulio saith mlynedd yma, yn bwyta sglodion, byrgyr, neu selsig, bynsen ag eisin arni, creision a Mars bar bob dydd. Does dim rhyfedd bod canran uchel o blant y cymoedd dros eu pwysau.
"Mae'n hysgolion wedi bod yn paratoi beddau cynnar iddyn nhw gydag ambell bwysigyn digydwybod yn cyfiawnhau'r hen fwydlen drwy ddweud na fyddai'r plant yn bwyta dim byd arall." Yn 么l Sam, aelod o flwyddyn 12, "mae dal lle i wella. Dydyn ni ddim wedi cyrraedd safon coginio Jamie Oliver eto! Hoffwn i weld mwy o amrywiaeth." Gan: Mari a Sam.
|