1939
David Lloyd George (1863 - 1945) Y gwladweinydd yn annerch ei gyd-Gymry ar drothwy ail ryfel byd Ganwyd ef ym Manceinion ond cafodd ei fagu yn Gymro Cymraeg ym mhentref Llanystumdwy ger Cricieth. Yn wr ifanc enillodd sedd Bwrdeistref Caernarfon i'r Rhyddfrydwyr a bu'n cynrychioli'r etholaeth honno am 55 o flynyddoedd. Yn Ganghellor y Trysorlys radical, ef fu'n gyfrifol am gyflwyno'r pensiwn i'r henoed. Daeth yn Brif Weinidog ym 1916 gan arwain Prydain i fuddugoliaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf a chynrychioli'r wlad yng nghynhadledd heddwch Versailles. Ystyrir ef yn un o arweinwyr mwyaf Prydain Fawr. 'Roedd yn siaradwr penigamp, ac yn y recordiad hwn fe'i clywir, yn hen wr erbyn hyn, yn annerch y dorf yn Eisteddfod Dinbych yn 1939 wrth i gymylau ail ryfel byd grynhoi uwch Ewrop.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O David Lloyd George 1939 darlledwyd yn gyntaf 1939
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|