1966, 1974, 1982
Gwynfor Evans Y cenedlaetholwr a fu'n allweddol yn y frwydr dros sianel deledu Gymraeg Ganwyd Gwynfor Evans yn Y Barri ym Mro Morgannwg ym 1912. Aeth i Brifysgol Aberystwyth ac i Rydychen i ddarllen y gyfraith, ond dewisodd yrfa fel garddwr masnachol yn Llangadog ger Caerfyrddin. Yn Gristion, yn heddychwr ac yn genedlaetholwr o argyhoeddiad dwfn, bu'n Llywydd Plaid Cymru o 1945-1981. Ef oedd Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru pan enillodd sedd Caerfyrddin yn 1966 Collodd y sedd yn 1970, ond i'w hadennill a'i chadw o 1974 i 1979. Brwydrodd yn ffyrnig dros Gymru a'r Gymraeg yn y Senedd. Pan newidiodd Margaret Thatcher a'i llywodraeth eu meddwl dros ganiatau sianel ddarlledu Gymraeg i Gymru, cyhoeddodd ei fod am ymprydio a hynny hyd angau pe bai angen er mwyn sicrhau sianel. Enillodd y dydd.
Clipiau perthnasol:
O Tynged yr Iaith, Heddiw darlledwyd yn gyntaf 15/02/1987, 21/07/1966, 22/10/1974
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|