| |
Twf
Democratiaeth
David Lloyd George
Rhagor o ddiwygiadau
Yn 1867 mae鈥檙 Ceidwadwyr o dan Disraeli yn sicrhau ail fesur diwygio
sy鈥檔 rhoi鈥檙 bleidlais i bob gwryw sy鈥檔 talu trethi yn y bwrdeistrefi.
Yn 1871, yn rhannol am fod y Rhyddfrydwyr Cymreig yn cael eu herlid
gan y tirfeddianwyr Ceidwadol, sefydlwyd trefn y bleidlais gudd. Yn
1884 mae鈥檙 Rhyddfrydwr yn sicrhau mesur arall sy鈥檔 rhoi鈥檙 un hawliau
pleidleisio i鈥檙 siroedd ag sydd gan y bwrdeistrefi. Yn y flwyddyn
ganlynol o dan y Ddeddf Ailddosbarthiad mae ardaloedd trefol a diwydiannol
Cymru鈥檔 cael rhagor o seddau yn y Senedd ar draul y siroedd gwledig
a鈥檙 trefi marchnad bychain. O ganlyniad mae gan Gymru 34 o aelodau
seneddol, 12 yn y gogledd, 14 ym Morgannwg a Sir Fynwy ac 8 yng ngweddill
de Cymru.
Yn 1918 rhoddir yr hawl i bleidleisio i bob dyn dros un ar hugain
oed, ag eithrio gwrthwynebwyr cydwybodol. Y mae gwragedd dros ddeg
ar hugain oed yn cael yr un hawl. Yn 1928 mae pob menyw yn cael yr
un hawliau pleidleisio a鈥檙 dynion. Yn 1948 mae鈥檙 hawl i fwy nag un
bleidlais - drwy fod yn berchen ar fusnes neu fod 芒 gradd prifysgol
- yn cael ei ddiddymu. Etholiad Cyffredinol 1950 felly yw etholiad
gwir democrataidd cyntaf Prydain. Mae llywodraeth leol hefyd yn cael
ei democrateiddio, yn bennaf o ganlyniad i Ddeddf Cynghorau Sir 1888
a ffurfio cynghorau dosbarth a phlwyf etholedig yn 1894.
Y newid yn natur cynrychiolaeth seneddol
Yn y 1850au yr oedd pob aelod seneddol yng Nghymru fwy neu lai yn
perthyn i鈥檙 dosbarth tiriog; erbyn 1906 mae鈥檙 landlordiaid bron wedi
diflannu o Dy鈥檙 Cyffredin. Digwyddodd y newid yma yn bennaf yn etholiadau
1868 ac 1885. Yn y naill sicrhaodd Henry Richard fuddugoliaeth ddramatig
ym Merthyr Tudful, ac fe gollodd nifer o landlordiaid eu seddau, teuluoedd
megis Douglas-Pennant o Gastell Penrhyn. Yn y llall trechwyd perchennog
Wynnstay ac etifedd Gelli Aur, y mwyaf a鈥檙 ail fwyaf o鈥檙 stadau Cymreig.
Er bod rhai o鈥檙 teuluoedd sy鈥檔 berchen tir yn cefnogi plaid y Chwigiaid,
Tor茂aid yw鈥檙 mwyafrif. O ganlyniad i hynny, mae Cymru鈥檔 cael ei chynrychioli
yn y senedd gan aelodau adain dde yn bennaf. Ond yn 1880, dim ond
pedwar Ceidwadwr sy鈥檔 cael eu hethol, a dim un yn 1906.
Goruchafiaeth y Rhyddfrydwyr Y
Blaid Ryddfrydol sy鈥檔 elwa fwyaf o鈥檙 diwygiadau - y brif blaid wleidyddol
yng Nghymru rhwng y 1860au a 1922. Mae鈥檙 blaid yn llwyddo i ddenu
cefnogaeth o bob dosbarth a haen o gymdeithas. Mae diwydianwyr yn
hoffi polisi marchnad rydd y blaid, mae鈥檙 dosbarth proffesiynol yn
hoffi鈥檙 pwyslais ar hunangymorth, fel mae鈥檙 dosbarth gweithiol ar
y dechrau; mae tenantiaid ffermydd yn cefnogi mesurau diwygio鈥檙 tir,
ac mae鈥檙 Anghydffurfwyr yn gweld mai dyma鈥檙 gobaith gorau i ddatgysylltu鈥檙
Eglwys. I ganol llwyfan Rhyddfrydol diwedd y 19eg ganrif y daw David
Lloyd George. Dechreuodd ei yrfa wleidyddol ryfeddol pan gafodd ei
ethol yn aelod seneddol Caernarfon yn 1890. Erbyn dechrau鈥檙 20fed
ganrif mae鈥檔 ymddangos bod yna wrthdaro rhwng yr hen ddaliadau Rhyddfrydol
a鈥檙 galw am ddiwygiadau cymdeithasol. Ond mae Lloyd George, a鈥檌 gynlluniau
pensiwn i鈥檙 henoed ac yswiriant cenedlaethol, yn llwyddo i roi i鈥檙
blaid ddelfrydau radicalaidd newydd. Mae鈥檙 Rhyfel Byd Cyntaf yn ergyd
farwol i ragolygon Rhyddfrydiaeth.
|
|
|
漏 MM
|
听 |
听 |
|
|