1978
Syr Geraint Evans Marchog byd y gân yng Nghymru yn achub y dydd Ganwyd Geraint Evans (1922 - 1992) yng Nghilfynydd i deulu cerddorol. Ei dad oedd arweinydd côr yr eglwys yng Nghilfynydd. Yn ystod y rhyfel, cafodd y mab gyfle i ganu ar y radio gyda'r British Forces Network. Wedi'r rhyfel, bu'n astudio yn y Guildhall yn Llundain ac ymunodd â Chwmni Opera Brenhinol Covent Garden yn 1947. 'Roedd yn ddyn cyfeillgar a chynnes ac roedd ei wreiddiau a'i galon yn ddwfn yng Nghymru. Pan siomwyd y gynulleidfa fawr yn y pafiliwn yn Eisteddfod Caerdydd yn 1978 am fod neb yn deilwng o'r gadair, achubodd y sefyllfa wrth i'r canwr, oedd yn aelod o'r Orsedd, ganu'r hen ffefryn "Y Marchog".
Clipiau perthnasol:
O Cloddio'r Aur darlledwyd yn gyntaf 10/08/1978
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|