1943
Eisteddfod Cairo Cynhalwyd yr eisteddfod ryfeddol hon yn yr Aifft yn 1943, dan adain Cymdeithas Gymreig Cairo. Fe'i trefnwyd gan y Parch J Madoc Jones er lles y milwyr. Richard Aethwy Jones oedd yr Archdderwydd. Gan ddilyn traddodiad pob eisteddfod, gofynnodd yr Archdderwydd 'A oes heddwch?'. W J Jones o Gaernarfon enillodd y Gadair, a'r Gwir Barchedig Llewellyn Gwyn, Esgob yr Aifft a Swdan, oedd Llywydd y Dydd. Ar y recordiad hwn, clywir unawd gan y tenor John Evans o Frynsiencyn. Mae ef yn amlwg dan deimlad wrth iddo ganu'r gân boblogaidd, ac addas iawn o dan yr amgylchiadau, 'Cartref'.
O Eisteddfod Cairo darlledwyd yn gyntaf 31/10/1943
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|