1960
David Lloyd Y tenor gyda'r llais arian a gyfunodd y clasurol a'r cartrefol Ganwyd David Lloyd (1912 - 1969) yn Nhrelogan, Sir y Fflint, yn fab i lowr. Dechreuodd ganu yn wyth mlwydd oed. Ar ôl meithrin ei ddawn mewn eisteddfodau lleol, enillodd ysgoloriaeth i Ysgol Gerdd y Guildhall a bu'n canu yn Efrog Newydd, Milan a Glyndebourne. Bu'n aelod o'r Gwarchodlu Cymreig yn ystod y rhyfel, a gwelwyd ef yn ei lifrai yn canu ar lwyfan sawl gwaith. Swynodd y genedl â'i lais ariannaidd, teimladwy. Roedd ganddo ddawn neilltuol i fynd â chalon cynulleidfa, yn enwedig cynulleidfa Gymreig, pryd y byddai'n canu hen ffefrynnau o ganeuon gwerin ac emynau.
Clipiau perthnasol:
O Cofio'r Celyn a'r Calan darlledwyd yn gyntaf 25/12/1960
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|