1926
Dora Herbert Jones Y Gymraeg yn mentro i fyd recordiau, gyda'r gân werin ar flaen y gad Erbyn 1926, 'roedd cwmnïau recordio yn chwilio'n brysur am ddeunydd newydd a fyddai o ddiddordeb i'r cyhoedd. Canu gwerin gafodd y sylw yng Nghymru ac un o garedigion mwyaf y gân werin oedd Dora Herbert Jones. Ganwyd hi yn Llangollen yn un o bump o ferched a bu'n canu pob math o ganeuon, rhai clasurol, rhai doniol a rhai sentimental. Ond, ar ôl clywed Dr. Mary Davies yn darlithio ar Alawon Gwerin Cymru, fe'i cyfareddwyd. Dyma ddechrau oes gyfan o fwynhad a diddordeb yn y byd canu gwerin. Dyma hi'n sôn am ei thaith i Lundain i dorri'r record gyntaf o'i math yn y Gymraeg.
Clipiau perthnasol:
O Adlais 1926 darlledwyd yn gyntaf 1926
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|