1964
Cerdd Dant Y grefft hynafol Gymreig o uno telyn a llais Crefft y werin oedd Cerdd Dant a chrefft lafar heb unrhyw fath o gofnodi ffurfiol na rheolau pendant. Cyfeiriwyd at y ffordd yma o ganu fel 'hen ganu'r Cymry' a dibynwyd yn llwyr ar gof y cantorion i gadw'r grefft yn fyw ac i drosglwyddo'r ddawn o un genhedlaeth i'r llall. Ym mis Tachwedd 1934 yn y Bala, fe sefydlwyd Cymdeithas Gerdd Dant Cymru ac ers hynny bu aelodau'r Gymdeithas yn gweithio'n galed i hyrwyddo'r grefft o ganu penillion i gyfeiliant. Yn 1947 cynhaliwyd yr Wyl Gerdd Dant gyntaf, ac ers hynny cynhelir yr Wyl yn flynyddol yn y gogledd a'r de bob yn ail.
Clipiau perthnasol:
O This Land of Song darlledwyd yn gyntaf 09/10/1964
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|