1972
Pont Britannia Llosgi'r bont dros y Fenai, a'i hailadeiladu wedyn. Ar y 23ain o Fai 1970, aeth Pont Britannia rhwng y tir mawr ac Ynys Môn ar dân. Awgrymwyd ar y pryd mai bechgyn ifainc oedd yn gyfrifol. Gan fod y to wedi'i wneud o bren, llosgodd yn gyflym ac ofer fu pob ymdrech gan y frigâd dân i'w reoli. Llosgodd y tân yn ffyrnig drwy'r nos. Dyma'r unig gysylltiad rheilffordd rhwng Ynys Môn a gweddill y wlad ac achosodd colli'r cysylltiad gryn ofid i borthladd Caergybi. Ailadeiladwyd y bont yn ddiweddarach ac ar yr un pryd adeiladwyd ffordd newydd dros ei phen. Agorwyd y bont newydd yn 1972.
Clipiau perthnasol:
O Heddiw darlledwyd yn gyntaf 31/01/1972
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|