1996
Agor Ail Bont Hafren Gwaith peirianyddol mentrus yn hybu trafnidiaeth rhwng Cymru a Lloegr Ar y pumed o Fehefin, 1996, ddeng mlynedd ar hugain ar ôl agor y bont gyntaf ar draws ar afon Hafren, agorwyd yr ail bont gan y Tywysog Charles. 'Roedd hwn yn gysylltiad newydd rhwng Cymru a Lloegr. Disgwylid i'r bont newydd arbed rhyw chwarter awr i deithwyr ar yr M4, ond yn fwy na hynny gobeithid y byddai'r ail bont yn denu mwy o ddiwydiant i Gymru. Consortiwm o Brydain a Ffrainc oedd yng ngofal yr adeiladu, a nhw hefyd, fel cwmni preifat, oedd y gyfrifol am osod a chasglu'r tollau.
Clipiau perthnasol:
O Newyddion darlledwyd yn gyntaf 05/06/1996
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|