1969
Arwisgo Tywysog Cymru Dadlau a dathlu wrth i seremoni frenhinol ddod i Gaernarfon Ym 1958 yn ystod Gemau'r Gymanwlad yng Nghaerdydd, cyhoeddodd y Frenhines Elizabeth ei bwriad i roi'r teitl Tywysog Cymru i'w mab hynaf. Er mwyn dysgu rhywfaint o Gymraeg a deall mwy am hanes Cymru, treuliodd y Tywysog Charles dymor yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth. Cymysg fu'r croeso i'r Arwisgo yng Nghymru, gyda chenedlaetholwyr yn gweld y weithred fel arwydd o ddarostyngiad y genedl Gymreig, ond gyda llawer o bobl hefyd yn cynhesu at y Tywysog ifanc. Ddiwrnod cyn yr arwisgo, lladdwyd dau genedlaetholwr yn Abergele wrth i'w bom ffrwydro ar ddamwain wrth iddynt ei osod ar y rheilffordd y byddai'r trên brenhinol yn teithio arni. Ar ddiwrnod yr arwisgo, sef Gorffennaf 1af 1969, symudwyd dros dair mil o heddlu i dref Caernarfon, gymaint oedd y pryderon am brotestiadau. Ond aeth y seremoni rhagddi heb broblem, ac fe urddwyd Charles fel Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon.
Clipiau perthnasol:
Canfod mwy am...
O Jiwbili yr Urdd, Heddiw darlledwyd yn gyntaf 01/07/1969, 29/12/1972
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|