1982, 1993
Meibion Glyndwr Yr ymgyrch losgi tai haf yn dod â dirgelwch a drwgdybiaeth i Gymru Ers blynyddoedd, bu'r ffaith bod pobl o'r tu allan yn prynu tai yng nghefn gwlad Cymru fel cartrefi gwyliau yn asgwrn cynnen. Teimlwyd dicter yn enwedig yn yr ardaloedd Cymraeg, lle teimlid bod y tai haf yn amddifadu pobl leol o'r cyfle i fyw yn eu hardaloedd eu hunain. Ddiwedd y saithdegau fe drodd y drwgdeimlad yn weithredoedd, wrth i fudiad dan yr enw 'Meibion Glyndwr' ddechrau llosgi tai haf. Llosgwyd y cyntaf ym Mhenrhyn Llyn ar y 12fed o Rhagfyr 1979. Parhaodd yr ymgyrch losgi drwy gydol yr 80au, ac er i rai unigolion gael eu harestio ddechrau'r 90au, parhau'n ddirgelwch mae'r mudiad yn y bôn.
Clipiau perthnasol:
O Taro Naw darlledwyd yn gyntaf 03/02/1993
Er mwyn ichi wylio'r darn hwn bydd rhaid ichi osod chwaraewyr Real ar eich cyfrifiadur. Cewch gymorth yma i osod RealPlayer, ac i
|