Sefydlwyd ymgyrch yn 2010 i wneud Medi'r 3ydd yn ddiwrnod y Pethau Bychain - sef diwrnod i ddathlu'r iaith Gymraeg arlein ac i annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol.
Roedd y criw y tu 么l i'r ymgyrch yn annog pobl i wneud unrhyw weithgaredd digidol ar y we yn Gymraeg ar y diwrnod hwn er mwyn "chwarae rhan allweddol mewn llusgo'r Gymraeg mewn i'r byd digidol."
Roedden nhw'n gofyn i bobl gymryd rhan drwy wneud rywbeth mor fach 芒 newid eu statws ar Facebook i roi fideo ar y we - cyhyd 芒'i fod yn Gymraeg!
Ymysg yr awgrymiadau eraill oedd gan ymgyrch Pethau Bychain roedd creu cofnod blog, uwchlwytho darn o gerddoriaeth, creu rhywbeth yn Photoshop, tudalen Wikipedia, erthgyl academaidd, rhoi eich papur bro arlein, adolygu ffilm, creu e-farddoniaeth, gwneud defnydd creadigol o fapiau Google neu greu tudalen gwe am eich hobi neu gymdeithas.
Nod yr ymgyrch, sy'n cymryd ei enw o ddyfyniad enwog , yw creu "diwylliant ar-lein Cymraeg annibynnol er mwyn sicrhau fod y Gymraeg yn tyfu a ffynnu."
"Rydyn ni yn orddibynnol ar gyfryngau wedi eu bwydo i ni yn y Gymraeg: mae'r we yn gyfle i ni ffurfio ein sianeli, ein gorsafoedd a'n diwylliant digidol ni ein hunain ar ein telerau ni," meddent.
Daeth y syniad gan griw o Gymry Cymraeg oedd yn meddwl beth i'w wneud ar gyfer Diwrnod Ada Lovelace, mathemategydd sy'n cael ei hystyried fel y rhaglennydd cyfrifiadurol cyntaf. Mae ei diwrnod ar Mawrth 24 yn dathlu llwyddiannau menywod mewn technoleg a gwyddoniaeth.
Y syniad gwreiddiol oedd cael rhywbeth tebyg i ddathlu datblygiad yr iaith Gymraeg ar y we, a datblygodd hyn yn ddiwrnod Pethau Bychain.
Gallwch weld syniadau pobl a gymerodd ran ar y dudalen ar eu gwefan
Cysylltiadau:
- Gwefan:
- Facebook:
- Twitter: