Meddalwedd Swyddfa
P'un ai ydych chi'n ddefnyddiwr Windows, Mac neu arall, gallwch chi gael meddalwedd swyddfa yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog.
Mae Microsoft Office 2003, 2007 a 2010 yn cynnig pecyn iaith sydd yn rhoi rhyngwyneb Cymraeg ac yn gosod gwirydd sillafu Cymraeg. Ar gyfer yr Apple Mac gallwch chi ddefnyddio NeoOffice sydd yn seiliedig ar OpenOffice ac hefyd yn cynnwys gwirydd sillafu. Os ydych am fynd am feddalwedd agored gallwch gael OpenOffice ar gyfer systemau Windows neu Linux. Mae gan fersiwn Agored ffeiliau cymorth Cymraeg a llawlyfr Cymraeg i fynd gydag e.
Ceir gwybodaeth fanylach am y rhain yn ogystal 芒 dolenni lawrlwytho ar wefan .
Systemau Gweithredu
Os ydych yn defnyddio OS Microsoft neu Linux mae cael rhyngwyneb Cymraeg yn hawdd, ond nid felly ar Mac.
Apple Mac
Nid yw system weithredu yr Apple Mac ar gael yn gyfan gwbl yn y Gymraeg eto, ond mae posib cael rhywfaint o Gymraeg drwy newid rhai gosodiadau. Mae cyfarwyddiadau clir ar sut i wneud hyn yn ogystal 芒 manylion am raglenni Cymraeg Apple Mac ar wefan
Linux
Mae prif ddosbarthiadau y system weithredu agored Linux ar gael gyda chryn dipyn o Gymraeg arnynt pan ddewisir y pecyn iaith Cymraeg. Ubuntu yw'r un mwyaf poblogaidd erbyn hyn ac mae gwefan yn rhoi'r holl wybodaeth fyddech ei angen ar gyfer gweithio yn y Gymraeg ar y system.
Porwyr ac E-bost
Porwyr gwe
Mae'r porwr gwe poblogaidd ar gael yn y Gymraeg yn ogystal ag Opera, sydd yn llai cyffredin. Ni ellir cael Explorer, Chrome na Safari yn y Gymraeg.
Rhaglenni e-bost
O ran rhaglenni ebost mae meddalwedd Thunderbird ar gael yn y Gymraeg. Gallwch ddod o hyd i hwn a gweld rhagor o feddalwedd rhyngrwyd Cymraeg ar wefan
Facebook a rhwydweithiau cymdeithasol
Cafodd rhyngwyneb y rhwydwaith gymdeithasol enfawr ei drosi i'r Gymraeg gan y gymuned yn 2008. Mae'n debyg taw hon oedd yr ymdrech gyfieithu ar-lein fwyaf i'w gwneud ar y cyd ar gyfer yr iaith Gymraeg. Rhoddodd Facebook feddalwedd cyfieithu yn rhan o'u system, oedd yn galluogi ei haelodau i gystadlu am y gorau i gyfieithu dros 20,000 o eiriau a brawddegau. Erbyn hyn mae Facebook wedi agor y system gyfieithu hyn i wefannau eraill trwy eu system
O fewn Facebook ceir tudalennau 'ffan', lle gellir trafod pob math o bynciau. Mae nifer fawr iawn o'r rhain yn y Gymraeg neu'n ddwyieithog erbyn hyn yn amrywio o ffans C'mon Midff卯ld i gr诺p Cymraeg ar eich Cyfrifiadur. Gallwch chwilio am gr诺p drwy ddefnyddio'r blwch chwilio yn nhop y dudalen.
Mae yn rhwydwaith gymdeithasol Gymreig o'r UDA, gyda ychydig ddefnydd o'r Gymraeg ynddi.
Dydy gwefan rhyngweithiol boblogaidd Twitter ddim ar gael yn y Gymraeg eto, ond mae posib ychwanegu eich enw i'r rhestr o'r rhai sy'n ymgeisio i'w gael yn y Gymraeg
Er nad oes llawer o rwydweithiau cymdeithasol eraill gyda rhyngwyneb Cymraeg, mae llawer o weithgaredd Cymraeg ar draws sawl rhwydwaith cymdeithasol arall, jest i chi chwilio. Erbyn hyn mae'r ffin rhwng blog, fforwm a rhwydwaith cymdeithasol wedi pylu cymaint fel na ellir diffinio rhai yn hawdd. Mae rhwydweithiau Ning er enghraifft yn cynnwys blogiau a fforwm, ac mae systemau blogio yn gadael i chi ffurfio rhwydweithiau.
Meddalwedd Eraill
Mae yn feddalwedd sydd yn hwyluso'r broses o decstio yn y Gymraeg drwy roi tecstio darogan yn y Gymraeg. Nid yw'n gweithio ar lawer o ff么nau diweddar, felly bydd angen gwirio eich ff么n yn erbyn y rhestr ar y wefan.
Lleihau URL
Weithiau mae URL (cyfeiriad gwefan) yn gallu bod yn hir iawn. Gall hyn fod yn boen os ydych chi'n eu defnyddio nhw mewn e-bost neu ar wasanaeth cyfyngedig ei lythrennau fel Twitter. Er mwyn atal hyn gallwch ddefnyddio sydd yn lleihau eich URL i un llawer deliach.
Ffonau symudol
Nid yw rhyngwyneb gyfan yr iPhone ar gael yn y Gymraeg, ond mae modd newid iaith rhywfaint ohono drwy ddilyn y camau yma ar . Yn anffodus, nid oes modd cael unrhyw Gymraeg ar ffonau Android eto.
Mwy o wybodaeth
Mae trafodaethau, adnoddau a chyfoeth o wybodaeth am Gymraeg a thechnoleg i'w darganfod ar wefan Haciaith. Gallwch hefyd drafod lleoleiddio a gweithgareddau Cymraeg ar-lein ar y Wici
Rhodri ap Dyfrig. Tachwedd 2009. Diweddarwyd gan Sioned Clwyd yn 2012.
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Language help
This page is about computer software and other technical resources available in Welsh. For help with the Welsh, click on the 91热爆 Vocab button above.