Sut mae sgwennu blog?
Mae'n dibynnu'n llwyr ar beth yw pwrpas y peth ac at bwy y mae wedi ei anelu. Ar ddiwedd y dydd y cyfan yw blog yw darn o feddalwedd sy'n ei gwneud hi'n hawdd creu gwefan. Os ydych chi eisiau defnyddio'r peth er mwyn cyhoeddi englynion ar gyfer criw o ffrindiau fe wnaeth y tro yn iawn a does dim angen darllen ymhellach.
Os ydych chi, ar y llaw arall, yn ceisio creu rhywbeth i ddenu'r nifer fwyaf posib o ddarllenwyr, yna dylai'r canllawiau a'r awgrymiadau hyn fod rhywfaint o gymorth i chi.
Cynnwys
Y rheol euraidd ar gyfer blog llwyddiannus yw "aml a difyr." Mae angen postio cyn amled ag y bo modd gan osgoi "postio er mwyn postio" gyda rhyw gynnwys diflas twitteraidd. Cofiwch dyw'ch darllenwyr ddim yn eich adnabod chi. Does dim diddordeb gyda nhw yn y ffaith eich bod chi'n "mwynhau coffi yn Starbucks" neu'n "edrych 'mlaen at weld Nain!"
Faint i sgrifennu
Does fawr o obaith i chi ddatblygu blog llwyddiannus os nad ydych chi'n fodlon postio rhyw dair neu bedair gwaith yr wythnos ac mae'r rhan fwyaf o'r blogwyr mwyaf llwyddiannus yn postio o leiaf unwaith y dydd. Yn bersonol rwy'n anelu at bostio un darn hir ac un neu ddau bost byr bob dydd ond mae hynny'n rhan o fy ngwaith bob dydd!
O safbwynt hyd yr eitemau, rhyw 300-400 o eiriau yw'r hyd delfrydol ar gyfer post sylweddol ac fe wnaiff rhyw gant y tro ar gyfer post ysgafn "talcen slip".
Arddull
Mae'r rhan fwyaf o flogwyr Cymraeg yn defnyddio steil anffurfiol a modern o'r iaith wrth ysgrifennu, y math o Gymraeg y byddai rhywun yn defnyddio mewn llythyr at gyfaill. Nid nofel na gwerslyfr yw blog, wedi'r cyfan.
Cofiwch hefyd bod 'na llond gwlad o ddeunydd ar y we y gallwch ei ddefnyddio i gyfoethogi'ch cynnwys. Gorau po fwyaf o ddolenni i safleoedd eraill yr ydych yn eu cynnwys. Mae'n bosib mewnosod ffilmiau a lluniau hefyd. Ar y cyfan mae pobol yn weddol oddefgar am gwestiynau hawlfraint ar flogs unigolion ond ceisiwch eich gorau i ufuddhau i'r rheolau.
Denu diddordeb ac ymateb
Does fawr o bwynt ceisio denu darllenwyr cyn bod 'na ddigon o ddeunydd darllen. Da chi, peidiwch 芒 phostio sylwadau ym mhob man yn dweud "rwyf am gychwyn blog yfory!" Unwaith bod rhyw dri neu bedwar post wedi ymddangos defnyddiwch safleoedd fel Maes-e, Facebook a Twitter i ddechrau lledaeni'r neges.
Gwnewch yn si诺r eich bod yn cynnwys llwyth o ddolenni parhaol i flogs eraill ar eich "blog roll". Os ydy eich cynnwys chi yn dda fe fydd y ffafr yn cael ei had-dalu'n hwyr neu'n hwyrach! Wrth i chi adael sylwadau ar flogiau pobol eraill gwnewch hynny gan ddefnyddio enw eich blog (os ydy hynny'n wahanol i'ch enw eich hun) gyda dolen yn 么l i'ch safle chi.
Sylwadau
Peidiwch a digalonni os nad ydych yn derbyn llawer o sylwadau. Am ryw reswm mae'r canran o ddarllenwyr sy'n gadael sylwadau yn llawer is yn y Gymraeg nac yn Saesneg. Gallwch ddisgwyl ambell i sylw cas hefyd. Eich dewis chi yw p'un ai i gyhoeddi sylwadau o'r fath ai peidio ond cofiwch bob tro mai chi yw'r meistr neu'r feistres, eich eiddo chi yw'r blog a chi sy'n gosod y rheolau.
Vaughan Roderick
Tachwedd 2009
Blog Vaughan Roderick
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Language help
Vaughan Roderick, 91热爆 Wales' Political Editor and regular blogger's tips on what makes a good blog. For help with the Welsh, click on the 91热爆 Vocab button above.