91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gemau'r Gymanwlad

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru

»

Chwaraeon

±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
±Êê±ô-»å°ù´Ç±ð»å Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Newidiwyd diwethaf: 20 Mawrth 2006
Melbourne: Dydd 5

Cymru yn cipio dwy fedal efydd arall ar bumed diwrnod y cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad ym Melbourne.

Llwyddodd David Roberts i gipio medal efydd yn y pwll nofio yn ras y 100m EAD dull rhydd gan orffen tu ôl i Matthew Cowdrey o Awstralia a Benoit Huot o Canada.

> Roberts wrth ei fodd

Ac yn gynharach yn y dydd llwyddodd Beverley Jones i orffen yn drydydd ar y trac athletau yn y 100m i athletwyr ag anabledd yng nghategori T37.

Ond roedd siom i dîm tenis bwrdd dynion Cymru wrth iddynt golli yn erbyn Nigeria yn y gêm am y fedal efydd.

> Siom i dîm tenis bwrdd Cymru


MANYLION GEMAU'R GYMANWLAD

> Tabl y medalau

> Canlyniadau Llun 20 Mawrth

ATHLETAU

Asafa Powell o Jamaica enillodd ras fawr y dydd wrth gasglu'r aur yn y 100m i ddynion.

Nid oedd dyn cyflymaf y byd erioed wedi enill medal mewn un o prif bencampwriaethau athletau'r byd cyn cyrraedd Melbourne.

Ond casglodd yr aur yn gymharol gyfforddus ag amser o 10.30 eiliad.

> Aur i Powell yn y 100m

Llwyddodd Robert Mitchell i sicrhau ei le yn rownd derfynol y naid uchel ddydd Mercher â naid o 2.15m yn y rowndiau rhagbrofol fore Llun.

A roedd Hayley Tullett yn gyfforddus wrth ennill ei rownd rhagbrofol o'r 1500m er mwyn sicrhau ei lle yn rownd derfynol.

Tullett yw'r unig athletwraig yn y rownd derfynol sydd wedi rhedeg yn gynt na phedwar munud a bydd yn un o'r ffefrynau am y fedal aur fore Mawrth.

Roedd Carys Parry yn chweched yn rownd derfynol y Taflu Gordd a seithfed oedd Julie Hamzah yn rownd derfynol y Taflu Pwysau tra'n eistedd EAD.

Methodd Gareth Warburton â chamu heibio rownd agoriadol y 400m ac yn y 400m i ferched roedd siom i Catherine Murphy wrth iddi orffen yn chweched yn ei rownd gynderfynol.

Roedd siom hefyd i Neville Bonfield yn y 100m EAD T12 wrth iddo fethu â chyrraedd y rownd derfynol.

BOCSIO

Roedd yn fore llwyddiannus arall i Gymru yn y sgwâr bocsio wrth i Matthew Edmonds a Darren Edwards gamu ymlaen i rownd yr wyth olaf.

Bydd Edmonds yn wynebu Louis Richard Bruno Julie o Mauritius yn y pwysau bantam (54kg) tra bydd Edwards yn herio Eddey Kalai o Malaysia yn y pwysau plu (57kg).

GYMNASTEG

Methodd Jessica Grazzi â chipio medal efydd yn y llofneidio i ferched o drwch blewyn.

NOFIO

Llwyddodd David Davies i ennill ei ras rhagbrofol o'r 1500m dull rhydd yn gyfforddus er mwyn sicrhau ei le yn y rownd derfynol fore Mawrth.

Camodd Owen Morgan ymlaen i rownd gynderfynol y 50m dull rhydd lle gorffennodd yn seithfed.

Ond roedd siom i Thomas Haffield a Jazmin Carlin wrth iddynt fethu â sicrhau eu lle yn eu rowndiau terfynol.


chwaraeon
Hanes y Gemau
Ìý
Medalau Cymru
Ìý


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý