Ym Manceinion yn 2002, casglodd India a Singapore fedal efydd yr un wedi iddynt golli yn y rownd gynderfynol.
Ond eleni penderfynwyd bod rhaid i'r timau chwarae gêm ychwanegol i benderfynu ar y fedal efydd.
"Mae hynny'n gwneud y peth yn waeth," meddai Ryan Jenkins, aelod o dîm Cymru.
"Bydde wedi cael efydd pedair blynedd yn ôl, ond roedd y tîm wedi gwneud ein gorau glas, ond nid oedd yn ddigon ar y diwrnod."
"Rwy'n credu ein bod yn flinedig wedi (y golled y erbyn Singapore) nos Sul.
"Roedd y gêm gyntaf yn bwysig iawn i ni.
"Chwaraeodd Adam yn dda iawn ond ni aeth penderfyniadau'r dyfarnwr o'n plaid. Weithiau mae hynny'n digwydd."
Roedd Nigeria gipiodd yr arian ym Manceinion, yn rhy gryf i'r Cymry wrth iddynt ennill 3-0. India gasglodd yr aur wedi iddynt drechu Singapore 3-2 yn y rownd derfynol.
Gêm y fedal efydd:
Nigeria 3-0 Cymru
(1)Kazeem Nasiru (Ngr) yn curo Adam Robertson (Cym) 9-11 11-7 11-8 11-9
(2) Segun Toriola (Ngr) yn curo Ryan Jenkins (Cym) 11-6 11-7 11-8
(3) Monday Merotohun (Ngr) yn curo Stephen Jenkins (Cym) 12-10 13-11
|