Rhaglen 1
Yn y rhaglen gyntaf mae Grav yn cael cwmni cyn fewnwr a chapten Cymru, Clive Rowlands, gafodd 14 cap dros Gymru rhwng 1963 a 1965.
Grav a Clive Rowlands
Rhaglen 2
Terry Davies ydi gwestai arbennig Grav yn yr ail raglen. Enillodd Davies 21 cap dros Gymru rhwng 1952 a 1961 a chafodd ddau gap i'r Llewod ar eu taith i Seland Newydd ym 1960.
Grav a Terry Davies
Rhaglen 3
Sgwrs efo Peter Rees sydd i'w gael yn nhrydedd rhaglen Shorts Grav. Asgellwr oedd Rees a llwyddodd i ennill dau gap dros Gymru yn ystod tymor 1946/47.
Grav a Peter Rees
Rhaglen 4
Derek Quinnell ydi gwestai Grav ym mhedwaredd rhaglen y gyfres. Llwyddodd Quinnell i ennill cap dros y Llewod cyn iddo cael ei gap cyntaf i Gymru wrth iddo wynebu Seland Newydd ym 1971.
Aeth ymlaen i ennill 23 cap dros ei wlad a phum cap i'r Llewod yn ystod oes aur Cymru yn y 1970au.
Grav a Derek Quinnell
Rhaglen 5
Gwestai diweddaraf Grav ydi Bleddyn Bowen. Enillodd y canolwr o Drebanos 24 cap dros ei wlad gan gynnwys arwain Cymru i'r Goron Driphlyg ym 1988.
Grav a Bleddyn Bowen
Rhaglen 6
Ray Williams, yr asgellwr o Felinfoel ydi gwestai Grav yn y chweched rhaglen. Enillodd Williams dri chap dros Gymru rhwng 1954 a 1958.
Grav a Ray Williams
Rhaglen 7
Gwestai Grav yn y seithfed rhaglen ydi Delme Thomas o Bancyfelin. Cafodd Thomas ei ddewis i deithio i Seland Newydd gyda'r Llewod ym 1966 gan chwarae dwy gêm Brawf yn erbyn y Crysau Duon, a hynny cyn iddo ennill yr un cap dros Gymru.
Grav a Delme Thomas
Rhaglen 8
Sgwrs efo John Davies, aelod o reng flaen Castell-nedd a Chymru sydd yn wythfed rhaglen Grav.
Grav a John Davies
|